Abram Wood
Roedd Abram Wood yn Sipsi Cymreig enwog ac yn storïwr a cherddor adnabyddus. Ef oedd penteulu’r Sipsiwn Romani Cymreig yn y 1700au.
Teulu Abram Wood
Mae’n debyg mai Abram Wood - neu Abraham Woods fel roedd hefyd yn cael ei alw – yw’r cerddor Sipsi enwocaf o blith yr holl chwaraewyr ffidil a’r telynorion Romani yng Nghymru erioed.
Mae nifer fawr o’r Sipsiwn Romani Cymreig heddiw yn gallu olrhain eu hanes iddo ef a’i deulu estynedig, ac mae sôn am ‘deulu Abram Wood’ ar hyd ein gwlad hyd heddiw.
Ble roedd e'n byw?
Mae’n debyg bod Abram Wood wedi symud i ardal Llanbrynmair ger Machynlleth yng nghanolbarth Cymru yn yr 1730au, cyn iddo ef a’i deulu symud yn ddiweddarach i ardal Y Bala a Rhuthun yn y gogledd.
Pan oedd yn blentyn, rydyn ni’n credu iddo ef a’i deulu agosaf fyw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr – o gwmpas Swydd Amwythig a Swydd Gaer. Roedd yn dod o deulu Sipsiwn a oedd yn adnabyddus am ddiddanu ac adrodd straeon.
Sgiliau a doniau
Roedd ei sgiliau a’i stôr o wybodaeth yn bwysig tu hwnt i Abram, a dysgodd bopeth gan ei rieni ac aelodau hŷn y teulu. Mae hyn yn rhan bwysig iawn o arferion y Romani wrth i’r teulu estynedig – y vista yn iaith y Romani – ddysgu a throsglwyddo’r sgiliau a’r diwylliant i’r plant.
Byddai Abram wedi gwrando’n astud wrth i berthnasau gwrdd o amgylch y tân ar ddiwedd y diwrnod gwaith i adrodd straeon a chanu caneuon. Roedd cof arbennig o dda ganddo, rhywbeth sy’n nodweddiadol o’r bobl Romani hyd heddiw, a gallai gofio straeon hir a chymhleth gyda nifer o gymeriadau a digwyddiadau ynddyn nhw.
O ble daeth y Sipsiwn yn wreiddiol?
Yn rhyfedd, daeth y gair ‘Sipsiwn’ o’r gair ‘Egyptians’ yn Saesneg. Roedd hyn am fod rhai pobl yn Ewrop wedi gwneud y camgymeriad o feddwl mai o’r Aifft roedd y teuluoedd Romani wedi dod yn wreiddiol. Roedd hyn yn anghywir, gan mai o India daethon nhw’n wreiddiol.
Perfformiwr
Perfformiwr oedd Abram Wood, ac roedd yn deall yn iawn ei bod hi’n bwysig iddo edrych yn drawiadol i ddenu llygad ei gynulleidfa.
Dyma ddisgrifiad ei or-wyres Saiforella Wood Jones ohono:
“[Roedd Abram Wood] o bryd tywyll gyda bochau cochion. Roedd ei wyneb mor grwn ag afal ac roedd ganddo geg fach … Roedd yn gwisgo het tri chornel … gyda les aur, cot sidan gyda dau bigyn ar y gwaelod … a gwasgod gyda dail gwyrdd wedi eu brodio drosti. Darnau aur hanner coron [hen fath o arian] oedd botymau ei got, a darnau swllt [hen fath o arian] oedd ar ei wasgod … Roedd ganddo drowsus byr gwyn wedi ei glymu â rhuban, a rhubanau wedi eu clymu wrth ei bengliniau. Ar ei draed, roedd esgidiau ysgafn o sidan ac ar bob un roedd bwcl arian a sbardun [i farchogaeth ceffyl] ... Gwisgai ddwy fodrwy arian, oriawr aur a chadwyn ... Byddai bob amser yn teithio ar gefn ceffyl ac yn cysgu mewn ysgubor – byth yn yr awyr agored. ”
Mae hefyd rai disgrifiadau ohono’n ŵr “tal a thenau”, er mai “crwn fel afal” oedd disgrifiad Saiforella ohono.
Wrth feddwl am ei wisg a’r ffordd y byddai’n canu’r ffidil neu’n dweud straeon wrth y tân, mae’n hawdd dychmygu ei fod yn gymeriad lliwgar a bywiog!
Cerddoriaeth
Mae chwaraewyr ffidil Romani yn enwog am eu sgiliau wrth ganu’r offeryn ar draws y byd, yn enwedig yng nghanol, dwyrain a de-ddwyrain Ewrop. Er hyn, yng Nghymru, mae cerddorion Romani (nifer ohonyn nhw’n perthyn i Abram Wood) yn fwyaf enwog am ganu’r delyn.
Diwedd ei fywyd
Mae nifer yn credu bod Abram Wood wedi marw mewn ysgubor neu feudy ar fynydd Cadair Idris ger Dolgellau yng Ngwynedd, a’i fod wedi ei gladdu ym mynwent Llangelynnin gerllaw gyda charreg bedd syml i gofio amdano. Mae eraill yn dweud ei bod yn annhebygol mai dyna lle cafodd ei gladdu, am mai Catholigion oedd ei deulu.
Yn draddodiadol, roedd y bobl Romani yng Nghymru yn llosgi corff eu hanwyliaid gyda’u heiddo mewn pabell neu wagen – vardo yn iaith y Romani – ac mae rhai yn gwneud hyn hyd heddiw.
Mae dylanwad a threftadaeth Abram Wood yn fyw heddiw trwy ddiwylliant, hanes ac arferion y Romani Cymreig.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Mae teulu Abram Wood yn adnabyddus ar draws Cymru hyd heddiw. Maen nhw wedi chwarae rhan bwysig yn hanes a diwylliant Cymru ers dros 300 o flynyddoedd.
Ymchwiliwch i rai o aelodau’r teulu hwn, e.e.
John Roberts, ‘Telynor Cymru’
Nansi Richards
Eldra Jarman.
Sut maen nhw wedi cyfrannu at hanes a diwylliant Cymru ar draws y canrifoedd? Trafodwch beth ydych chi wedi ei ddysgu.
Dyma rai dolenni defnyddiol ar gyfer eich ymchwil:
http://www.valleystream.co.uk/romany-wood.htm
https://bywgraffiadur.cymru/article/c-WOOD-SIP-1500
https://www.facebook.com/watch/?v=822090875685044
https://www.casgliadywerin.cymru/items/500406#?xywh=-584%2C-1%2C1627%2C771
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/29667652
Gweithgaredd 2
Gwyliwch y clip fideo hwn: https://youtu.be/Ppy3zurujqc?si=6ksujDdU4i7Xf5U4
Trafodwch:
Beth ydyn ni’n ei ddysgu am Ddeddf Cyfraddoldeb 2010?
Mae’n bosib defnyddio geiriau hiliol heb feddwl am eu hystyr. Ydy hyn yn golygu ei bod yn iawn i ni ddefnyddio’r geiriau hyn?
Pe baech chi’n clywed pobl yn defnyddio geiriau hiliol, sut gallech chi eu hannog nhw i feddwl am beth maen nhw’n ei ddweud a stopio eu defnyddio?
Ydych chi’n meddwl bod pobl yn gyffredinol yng Nghymru yn sylweddoli bod y Sipsiwn Romani wedi bod yma ers canrifoedd ac wedi cyfrannu cymaint at ein cymdeithas? Yn eich barn chi, sut gallai mwy o bobl ddod i wybod am hyn a gwerthfawrogi hanes y Sipsiwn Romani?
Gweithgaredd 3
Mae disgrifiad gor-wyres Abram Wood ohono yn fanwl iawn. Edrychwch ar y disgrifiad eto a gwnewch restr o’r holl ansoddeiriau mae’n eu defnyddio i ddisgrifio sut roedd ei thaid yn edrych.
Yna, dilynwch y dolenni isod i weld hen luniau o Sipsiwn yng Nghymru a’u ffordd arbennig o fyw. Gan weithio mewn parau, disgrifiwch yn fanwl beth ydych chi’n ei weld, gan feddwl am gymaint o ansoddeiriau addas â phosib:
https://www.casgliadywerin.cymru/items/398628#?xywh=-505%2C0%2C1583%2C749
https://www.casgliadywerin.cymru/items/460#?xywh=-176%2C-1%2C933%2C442
https://www.casgliadywerin.cymru/items/433#?xywh=-428%2C0%2C1293%2C612
https://www.casgliadywerin.cymru/items/430#?xywh=-422%2C0%2C1285%2C609
https://www.casgliadywerin.cymru/items/985#?xywh=-163%2C-1%2C928%2C440
John Ystumllyn
Cefndir
Cafodd John Ystumllyn ei eni naill ai yng Ngorllewin Affrica neu India’r Gorllewin. Cafodd y wybodaeth gynharaf amdano ei hysgrifennu gan Robert Isaac Jones yn Nhremadog yn 1888, tua 150 mlynedd ar ôl geni John. Roedd hanes John wedi synnu Robert Isaac Jones, ond er iddo ysgrifennu'n fanwl amdano, mae llawer o fylchau o hyd yn ein gwybodaeth am John Ystumllyn.
Mae'n debyg fod John wedi cael ei eni tua'r flwyddyn 1738. Byddai ganddo enw gwahanol ac iaith wahanol bryd hynny, wrth gwrs. Un diwrnod, cafodd ei gipio’n sydyn gan ddynion gwyn a’i werthu yn Lloegr fel rhan o’r fasnach gaethweision broffidiol a chreulon iawn. Roedd yn cofio ei fam yn sgrechian a chrio amdano wrth iddo gael ei gipio. Cafodd ei brynu a’i roi wedyn yn anrheg i deulu Wynne ger Cricieth yng ngogledd Cymru.
Sgiliau arbennig
Rhoddodd teulu Wynne enw newydd iddo, sef ‘John Ystumllyn’. Mae haneswyr yn credu ei fod tua 8 oed ar y pryd. Roedd y teulu’n teimlo bod dyletswydd arnyn nhw i addysgu John, a dysgodd Gymraeg a Saesneg yn gyflym iawn. Roedd yn fachgen dawnus ac yn dod i ddeall pethau’n sydyn. Erbyn ei fod yn 16 oed, roedd y teulu’n brolio ei fod yn grefftwr medrus, yn arddwr arbennig o dalentog, a’i fod hefyd yn olygus iawn ac yn onest. Roedd yn gweithio fel garddwr ar stad y teulu.
Ei fywyd fel oedolyn
Gydag amser, syrthiodd John mewn cariad â merch leol o’r enw Margaret Gruffydd, a phriodon nhw a chael saith o blant. Roedden nhw’n byw mewn bwthyn gawson nhw’n anrheg gan deulu Wynne, ac roedd yno ardd fawr. Arwydd arall fod teulu Wynne yn hoff o John ydy’r ffaith iddyn nhw gyflogi artist i baentio portread ohono. Mae cofnodion yn dangos nad oedd John wedi aros yn gaethwas a’i fod wedi cael byw fel dyn rhydd.
Uchel ei barch
Profodd John hiliaeth gan rai pobl yn ystod ei fywyd yng Nghymru. Er hynny, rydyn ni’n gwybod hefyd fod ganddo ffrindiau da yn ei ardal a bod llawer o barch tuag ato, oherwydd pan fu farw rhoddon nhw garreg arbennig ar ei fedd yn Eglwys Sant Cynhaearn i gofio amdano.
Rhosyn i'w gofio
Profodd John arswyd y fasnach gaethweision a dioddef hiliaeth ac anwybodaeth. Er hynny, mae’n debyg iddo hefyd brofi cariad a heddwch unwaith eto. Yn 2021, cafodd rhosyn arbennig ei enwi ar ôl John. Plannwyd y rhosod melyn hyn o gwmpas llyfrgell Cricieth a hefyd yng ngerddi Palas Buckingham i gofio am y garddwr arbennig hwn a dathlu ei gyfraniadau i Gymru.
Geirfa
|
masnach gaethweision |
busnes lle roedd pobl yn cael eu dal a’u gwerthu er mwyn byw a gweithio i rywun arall heb gael eu talu |
|
proffidiol |
rhywbeth sy’n dod â llawer o arian |
Gweithgaredd 1
Comisiynodd teulu Wynne bortread o John Ystumllyn. Beth mae hyn yn ei awgrymu am y ffordd roedden nhw’n ystyried John?
Edrychwch am y darlun o John ar-lein, e.e. http://www.spanglefish.com/welshblackhistorystories/index.asp?pageid=711650 Mewn grwpiau, trafodwch o leiaf bump disgrifiad o’r llun. Pam rydych chi wedi ei ddisgrifio fel hyn?
Gweithgaredd 2
I ddathlu bywyd John Ystumllun, cafodd rhosyn arbennig ei enwi ar ei ôl.
Dychmygwch eich bod chi’n rhan o banel i benderfynu sut arall i gofio am John Ystumllyn a’i gyfraniad i Gymru. Pa syniad sydd gennych chi am sut i gofnodi a dathlu ei fywyd?
Cyflwynwch eich syniad i weddill y ‘panel’, gan ddadlau pam mai eich syniad chi ddylai gael ei ariannu a’i weithredu.
Yna pleidleisiwch fel panel dros y syniad gorau. Pa syniad enillodd? Pam?
Gweithgaredd 3
Dychmygwch mai chi yw John Ystumllyn. Ysgrifennwch fonolog wrth iddo edrych yn ôl dros ei fywyd. Gallech chi ddisgrifio, er enghraifft:
William Cuffay
Roedd William Cuffay yn ddyn arbennig a weithiodd yn galed iawn dros hawliau gweithwyr yn y 1800au. Roedd yn berson amlwg ym mudiad y Siartwyr, sef y mudiad gwleidyddol mawr cyntaf yn hanes Cymru a Phrydain.
Ei gefndir
Roedd tad-cu Cuffay wedi bod yn gwaethwas Du. Roedd ei dad, Chatham Cuffay, hefyd yn gaethwas cyn iddo gael ei ryddhau yn y 1770au.
Pan gafodd Cuffay ei eni yn 1788, roedd ei iechyd yn wan ac roedd ganddo anabledd corfforol. Fel oedolyn, roedd yn fyr iawn ac yn mesur dan 5 troedfedd. Er hyn, wnaeth ei gefndir tlawd na’i anabledd ddim dal Cuffay yn ôl. Yn wir, aeth ymlaen i wneud gwaith mawr, gan chwarae rhan mewn newidiadau gwleidyddol yng Nghymru a Phrydain.
Pwy oedd y Siartwyr a pham roedden nhw’n protestio?
Dim hawl gan y rhan fwyaf i bleidleisio
Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, doedd dim hawl gan y rhan fwyaf o bobl i bleidleisio mewn etholiadau. Roedd yr Aelodau Seneddol yn dod o’r teuluoedd mwyaf cyfoethog yn y gymdeithas ac yn rheoli’r trefi a’r ardaloedd lle roedden nhw’n byw. Nhw oedd yn gwneud y penderfyniadau, a hynny heb ystyried y dosbarth gweithiol o gwbl.
Dechrau herio’r drefn
Yn raddol, dechreuodd y dosbarth canol a’r dosbarth gweithiol herio’r drefn hon a dechrau ffurfio grwpiau gwleidyddol. Roedd y dosbarth gweithiol yn anfodlon iawn gyda’u cyflogau isel a’r amodau byw gwael.
Ymateb y llywodraeth
Roedd y llywodraeth yn poeni byddai’r bobl yn troi yn eu herbyn nhw ac yn dechrau chwyldro. Felly, yn 1832, cafodd Deddf Diwygio'r Senedd ei phasio er mwyn rhoi’r hawl i fwy o bobl bleidleisio. Ond hyd yn oed wedyn, dim ond 7% o'r boblogaeth oedd yn gallu pleidleisio a doedd dim hawliau o hyd gan y dosbarth gweithiol.
Siarter y Bobl
O ganlyniad i hyn, roedd y dosbarth gweithiol ym Mhrydain yn tyfu’n fwy a mwy anesmwyth yn ystod y 1830au. Cafodd Siarter y Bobl ei llunio, sef dogfen yn rhestru’r hawliau roedden nhw am eu derbyn. Cafodd grwpiau eu sefydlu i ymgyrchu dros y siarter hon.
Roedd 6 nod gan y Siartwyr, sef:
1. Pleidlais i bob dyn dros 21 oed.
2. Pleidleisio’n gyfrinachol heb unrhyw fwlio neu bwysau.
3. Etholiadau blynyddol (ar y pryd roedden nhw’n arfer digwydd bob 7 mlynedd).
4. Cyflogau i Aelodau Seneddol.
5. Nifer gyfartal o bleidleiswyr ym mhob etholaeth.
6. Dim angen perchen ar dir er mwyn bod yn Aelod Seneddol.
William Cuffay a’r Siartwyr yng Nghymru
Gweithio fel teiliwr
Petai Cuffay wedi cael ei eni'n heini a chryf, mae'n debyg byddai e wedi dilyn ei dad a mynd i weithio ar y môr. Ond doedd hynny ddim yn opsiwn iddo, ac yn 1800, pan oedd yn 12 oed, cafodd Cuffay brentisiaeth fel teiliwr. Erbyn 1819, roedd wedi symud i weithio fel teiliwr yn Llundain.
Flynyddoedd wedyn, yn 1834, roedd Cuffay a nifer o deilwyr eraill wedi cael digon ar y cyflogau isel a’r oriau gwaith annheg, ac felly aethon nhw ar streic i brotestio. Am ei fod wedi streicio, collodd Cuffay ei swydd. A dyma mewn gwirionedd oedd dechrau’r llwybr wnaeth ei arwain at y Siartwyr ac i Gymru!
Cymdeithas y Siartwyr
Roedd Cuffay yn gynddeiriog ei fod wedi colli ei swydd. Sylweddolodd e fod neb i gynrychioli gweithwyr yn y Senedd yn Llundain, ac aeth ati i helpu i ffurfio Cymdeithas y Siartwyr ar gyfer teilwyr.
Siaradwr gwych
Yn fuan iawn, daeth Cuffay yn aelod pwysig iawn ym mudiad y Siartwyr yn Llundain. Roedd yn cael ei adnabod fel siaradwr dawnus ac effeithiol a oedd yn boblogaidd gyda’r dosbarth gweithiol.
Dod i gysylltiad â Chymry
Yn y cyfnod hwn, daeth i gysylltiad ag aelodau amlwg o’r Siartwyr yn ne Cymru, fel John Frost, William Jones a Zephaniah Williams. Helpodd Cuffay i gysylltu de Cymru â mudiad y Siartwyr ym Mhrydain.
Protestio’n gorfforol
Ar ôl blynyddoedd heb weld unrhyw welliannau ar gyfer y dosbarth gweithiol yng Nghymru, dechreuodd rhai o’r Siartwyr newid y ffordd roedden nhw’n protestio. Yn ogystal ag ysgrifennu at y llywodraeth, dechreuon nhw brotestio’n gorfforol.
Terfysg Casnewydd
Digwyddodd y brotest fwyaf gwaedlyd yn hanes y Siartwyr yng Nghasnewydd, a hynny ar y pedwerdydd o Dachwedd 1839. Gyda chymorth a chefnogaeth William Cuffay, gwnaeth miloedd o Siartwyr Cymreig o nifer o gefndiroedd ethnig orymdeithio drwy Gasnewydd, gan gario arfau a gweiddi eu protestiadau.
Wrth orymdeithio, cafodd nifer o’r Siartwyr eu harestio gan yr heddlu a’u carcharu yng ngwesty Westgate yng nghanol Casnewydd, a chafodd milwyr arfog eu galw i’r gwesty i helpu’r heddlu. Mewn ymateb, gwnaeth y Siartwyr amgylchynu’r gwesty gan fynnu bod y protestwyr yn cael eu rhyddhau. Yna, dechreuodd y ddwy ochr ymladd a saethodd y milwyr at y dyrfa.
Er mai dim ond am amser byr parodd yr ymladd gwaedlyd, collodd 22 o Siartwyr eu bywydau a chafodd dros 50 o bobl eu hanafu.
Mae’r brotest yn cael ei hadnabod fel Terfysg Casnewydd a dyma oedd y gwrthryfel arfog ddiwethaf yng Nghymru ar raddfa fawr.
Cosbi
Penderfynwyd bod yr arweinwyr, sef John Frost, William Jones a Zephaniah Williams yn euog o frad yn erbyn y llywodraeth ac mai’r gosb fyddai eu crogi nhw.
Ond yn y pen draw, ar ôl ymgyrch ddeisebu genedlaethol gan William Cuffay, cafodd y gosb ei newid a chafodd y tri arweinydd eu hanfon am oes i Van Diemen’s Land (sef Tasmania, Awstralia heddiw).
Cafodd cyfanswm o 60 o Siartwyr o Gymru eu hanfon i Dasmania yn 1842.
Cofio am Derfysg Casnewydd
Does dim llawer i’n hatgoffa ni yng Nghymru heddiw am Derfysg Casnewydd, yn enwedig cyfraniad cymunedau ethnig amrywiol. Yn 1978, cafodd murlun enfawr ei greu yng Nghasnewydd gan yr artist Kenneth Budd. Er bod y murlun yn dangos y Siartwyr yn ymladd, doedd dim un o’r Siartwyr ar y murlun yn dod o gymunedau ethnig amrywiol. Dydy’r murlun ddim yn bodoli heddiw oherwydd cafodd y cyngor lleol wared arno yn 2013.
Cuffay yn cael ei anfon i Dasmania
Rai blynyddoedd ar ôl Terfysg Casnewydd, yn haf 1848, roedd Cuffay yn rhan o gynllun yn Llundain i arwain gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth. Daeth y llywodraeth i wybod am hyn a chafodd Cuffay ei arestio. Ei gosb oedd cael ei alltudio i Dasmania am 21 o flynyddoedd.
Dewis aros yn Nhasmania
Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd y carcharorion gwleidyddol yn Nhasmania eu rhyddhau. Er hyn, dewisodd Cuffay aros yn Nhasmania, gan barhau i weithio fel teiliwr yn ei wlad newydd a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Wnaeth William Cuffay byth roi’r gorau i ymgyrchu ac yno chwaraeodd ran bwysig wrth berswadio'r awdurdodau i newid cyfreithiau llym yn erbyn gweision.
Diwedd ei fywyd
Bu Cuffay farw yn dlawd yn 1870, yn 82 oed. Ysgrifennwyd am ei farwolaeth mewn saith papur newydd ar draws tair talaith yn Awstralia, sef Tasmania, New South Wales a Victoria. Er hynny, cafodd ei gladdu heb garreg fedd i ddweud pwy oedd e.
Fel aelod o’r dosbarth gweithiol, adawodd e ddim dyddiaduron na phapurau ar ei ôl a does dim i ddangos heddiw lle roedd e wedi byw yn Llundain na Thasmania.
Er hynny, does dim amheuaeth i William Cuffay wneud gwaith aruthrol. Chwaraeodd ran allweddol yn hanes democratiaeth, gan helpu yn y pen draw i wella amodau ar gyfer y dosbarth gweithiol yng Nghymru, ym Mhrydain a thu hwnt.
Geirfa
|
alltudio |
anfon rhywun i wlad arall |
|
amodau byw |
amgylchiadau sy’n effeithio ar y ffordd mae rhywun yn byw |
|
arfog |
yn gwisgo neu’n cario arfau |
|
cynddeiriog |
blin iawn, crac iawn |
|
chwyldro |
pan fydd llawer o bobl yn ceisio rhoi diwedd ar un llywodraeth ac yn dechrau llywodraeth newydd |
|
deisebu |
casglu enwau er mwyn apelio at yr awdurdodau (e.e. y llywodraeth) i newid eu meddyliau am rywbeth |
|
democratiaeth |
system wleidyddol lle mae pobl y wlad i gyd yn cael eu cynrychioli yn y llywodraeth |
|
gorymdeithio |
pan fydd nifer fawr o bobl yn cerdded gyda’i gilydd i ddangos eu bod yn cefnogi rhywbeth |
|
gwrthryfel |
ymladd yn erbyn y llywodraeth |
|
mudiad |
grŵp o bobl sydd wedi dod at ei gilydd am bwrpas arbennig |
|
siarter |
dogfen swyddogol sy’n rhestru hawliau |
|
teiliwr |
person sy’n gwneud dillad |
Gweithgaredd 1
Trafodwch:
Pa wahaniaeth wnaeth William Cuffay i fywydau pobl eraill yn ystod ei fywyd? Rhestrwch y pethau gyflawnodd Cuffay.
Pa anawsterau wnaeth e eu hwynebu yn ei fywyd?
Sut gwrthododd e adael i'r rhain ei stopio?
Sut mae William Cuffay yn ein hysbrydoli ni i beidio â gadael i anawsterau ein diffinio ni?
Gweithgaredd 2
Meddyliwch am ddeg ansoddair gwahanol i ddisgrifio William Cuffay. Pam rydych chi wedi dewis yr ansoddeiriau hyn?
Gweithgaredd 3
Mae’r darn darllen yn nodi nad oes llawer i'n hatgoffa ni heddiw am Derfysg Casnewydd, yn enwedig cyfraniad cymunedau ethnig amrywiol. Trafodwch mewn grwpiau:
Lily Shepherd Tobias
“Lily was a unique woman in unique times – though small of stature and quiet of voice – Lily had the strength and determination to try and change the world. As a political activist and a writer, she fought for female suffrage, conscientious objectors, the rights of working people and a Jewish national home in Palestine.” (Donahaye, 2015).
Pwy oedd Lily Shepherd Tobias?
Awdures oedd Tobias, a oedd yn byw mewn cyfnod o newidiadau cymdeithasol mawr yn y byd. Magwyd hi mewn cartrefi yn Abertawe, Ystalyfera a Chaerdydd, a chafodd ei chrefydd Iddewig ddylanwad mawr arni ers pan oedd hi’n ferch fach. Roedd pethau oedd yn effeithio’r gymdeithas a materion crefyddol hefyd yn bwysig iddi hi. Cododd hi ei llais yn gyson i geisio perswadio, dylanwadu a gweithio i wella’r byd o’i chwmpas. Mae effaith ei gwaith pwysig ar y byd yn parhau hyd heddiw.
Ei gwreiddiau
Cafodd Lily ei geni yn 1887 yn 291 Heol Caerfyrddin, Abertawe. Roedd hi’n ferch i Tobias a Chana Beila, sef mewnfudwyr Iddewig o Wlad Pwyl. Roedd Lily’n gallu siarad tair iaith – Iddew-Almaeneg, Saesneg a Chymraeg, ac aeth hi i'r ysgol tan ei bod hi’n 13 oed. Roedd rhieni Lily yn dilyn traddodiadau Iddewig. Gŵr busnes oedd ei thad ac roedd e’n credu bod addysg yn bwysig. Yn anffodus, aeth tad Lily yn fethdalwr yn 1898 - roedd hyn yn golygu bod ei gwmni wedi dod i ben ac roedd hyn yn anodd iawn i'r teulu.
Ei daliadau
Mae’n debyg bod Lily wedi dechrau ysgrifennu i'r papur newydd, Llais Llafur, pan oedd hi’n 12 oed, ond gan nad yw ei henw hi ar un o’r erthyglau yn y papur newydd, does dim tystiolaeth i gadarnhau hyn. Er hynny, rydyn ni'n gwybod bod Lily yn frwdfrydig ac yn hyderus am yr hyn roedd hi’n credu ynddo, ac roedd hi’n ddelfrydwr gan ei bod hi’n dymuno cael byd perffaith i bawb.
Roedd cydraddoldeb yn bwysig iawn iddi, rhywbeth o bosib a dyfodd wedi ei phrofiad o orfod gadael yr ysgol yn 13 oed tra bod ei brodyr hi wedi gallu parhau â’u haddysg tan eu bod dipyn yn hŷn. Sosialydd oedd hi – sef person oedd yn credu’n gryf y dylai pawb gael yr un cyfleoedd a’u trin yn yr un ffordd deg. Wrth fyw yng nghymoedd y de, gwelodd hi pa mor anodd oedd bywydau’r gweithwyr o’i chwmpas, a bod eu cyflogwyr a pherchnogion cwmnïau yn cymryd mantais ohonyn nhw.
Fel merch i rieni a ddaeth i Gymru o wlad arall, gwelodd hi’n glir sut roedd rhai pobl yn cael eu trin yn wahanol i'w gilydd. Roedd hi’n teimlo bod teuluoedd dosbarth canol cymuned Iddewig Abertawe yn cael eu trin yn fwy ffafriol o'u cymharu â’i theulu hi ei hun. Roedd hyn yn enwedig yn anodd ar ôl i'w thad golli ei fusnes a oedd yn cynnal eu teulu.
Ei bywyd priodasol
Priododd Lily â Philip Valentine Tobias ym 1911, ac roedd y ddau yn debyg iawn o ran eu gwerthoedd a’u daliadau. Rhoddodd Philip gyfle ac amser i Lily gyfleu ei syniadau, a’r pethau oedd yn agos at ei chalon. Erbyn canol y 1930au roedd y ddau wedi symud i fyw i Balesteina. Seionyddion oedd y ddau ohonyn nhw, sef pobl a oedd eisiau gwlad lle gallai pobl Iddewig fel nhw fyw gyda’i gilydd. Yn eu cartref newydd, roedd Philip wedi dechrau busnes newydd ac roedd Lily’n mwynhau cael cyfle i ysgrifennu cymaint ag y gallai. Roedd ei llais, ei syniadau a’i phrofiadau hi ei hun yn amlwg yn nifer o’r llyfrau roedd hi wedi eu hysgrifennu.
Yn drist iawn, o ganlyniad i’r trais oedd yn tyfu ym Mhalesteina, cafodd Philip ei ladd pan wnaeth torf o bobl ei drywanu. Roedd hyn wedi effeithio ar Lily cymaint nes wnaeth hi byth ysgrifennu eto. Er hyn, roedd hi’n parhau i fod yn berson prysur iawn yn gymdeithasol ar ôl i'w gŵr hi farw. Arhosodd hi ym Mhalesteina am weddill ei bywyd, a bu farw yn 1984, yn 96 oed.
Dathlu ei bywyd a'i gwaith
Erbyn iddi farw, doedd dim llawer yn gwybod am ei gwaith ysgrifennu gwych, rhywbeth a ddigwyddodd i nifer o awduron benywaidd y cyfnod. Roedd hyn oherwydd doedd merched a dynion ddim yn cael yr un cyfleoedd i gyhoeddi llyfrau. Dros amser, gwelwyd cynnydd mewn balchder Cymreig a theimlad o wladgarwch yn ein gwald, ac arweiniodd hyn at fwy o sylw i ddeunydd darllen hanesyddol ein hawduron. Cafodd llyfrau Lily eu hargraffu eto, a nawr mae cyfle i bobl ei gwlad fwynhau ei gwaith.
Mae stori ddewr Lily yn un sydd yn rhoi ysbrydoliaeth i lawer o bobl, ac yn dangos bod llawer yn dal i gofio amdani heddiw.
Geirfa:
|
ymgyrchydd |
person sy'n defnyddio grym i godi llais dros rhywbeth maen nhw'n credu'n gryf ynddo |
|
methdalwr |
person sy'n colli ei arian i gyd ac sy'n methu talu'r biliau |
|
mewnfudwr |
person sy'n symud i fyw o un wlad i wlad arall |
|
sosialydd |
person sy'n credu mewn byd lle mae pawb yn gyfartal o ran eu cyfoeth a'r cyfleodd sydd ar gael iddynt |
|
daliadau |
yr hyn rydych chi'n credu ynddo |
|
Seionydd |
person sy'n credu mewn cael gwlad sy'n gartref i'r bobl Iddewig |
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i weithio at greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030.
Wrth i grwpiau adain dde eithafol dyfu dros Ewrop, sut gallwn ni ddatblygu a chefnogi Cymru nad yw’n wrth-Semitaidd yn yr 21ain ganrif?
https://www.llyw.cymru/cymru-wrth-hiliol
Gweithgaredd 2
Mae gwasg Honno* yn Aberystwyth yn cyhoeddi gwaith awduron benywaidd. Oes lle i gyhoeddwr fel yma wrth i ni symud tuag at Gymru sy’n cynnig cydraddoldeb i bawb?
Gweithgaredd 3
Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, arweiniodd mewnfudiad Iddewon i'r DU at drafodaethau am dwf yn y boblogaeth a newidiadau diwylliannol.
Sut mae Cymru wedi newid ac addasu er mwyn ymateb i anghenion ei phoblogaeth amrywiol?
Teulu Hinds
Gwneud Cymru’n lle gwell i fyw
Mae teulu Hinds yn cael eu cofio a’u dathlu oherwydd eu bod yn cynrychioli’r bobl a’r teuluoedd hynny a symudodd i Gymru a helpu i’w gwneud yn lle gwell i fyw. Treuliodd aelodau o deulu Hinds eu bywydau yn gwasanaethu eraill yn eu hardaloedd a’u gwlad, gan ddod yn arloeswyr gwleidyddol yn y cymunedau Caribïaidd a Chymreig.
Leonard Hinds
Cafodd tad y teulu, sef Leonard Hinds, ei eni yn Barbados yn 1887. Bu'n gweithio fel masnachlongwr am gyfnod ac yn gwasanaethu hefyd fel diffoddwr tân yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ddiweddarach, aeth Leonard i weithio fel glöwr ym mhentref Maerdy yng Nghwm Rhondda, gan setlo i fyw yn y Barri gyda'i wraig, Gwenllian Lloyd, a oedd yn ferch leol.
Cafodd Leonard a Gwenllian chwech o blant a fyddai’n mynd ymlaen i wasanaethu eu cymunedau a gwneud cyfraniadau eithriadol i wleidyddiaeth Cymru. Ganwyd un o'u merched, Elvira Gwenllian Hinds, yn y Barri yn 1917. Un arall o'u plant a aeth ymlaen i chwarae rhan ganolog ym mywyd Cymru oedd John Darwin Hinds, a gafodd ei eni yn 1922.
Elvira Gwenllian Hinds
Roedd Elvira Gwenllian Hinds yn cael ei hadnabod fel Gwen. Daeth hi’n wleidydd a gwas sifil arloesol, gan greu hanes fel y ferch gyntaf i fod yn gynghorydd Du yng Nghymru. Roedd hi’n faeres i’w brawd ac yn ddiweddarach daeth yn wleidydd ei hun ar ôl cael ei hethol i Gyngor Bro Morgannwg yn 1972. Parhaodd i chwarae rhan mewn gwleidyddiaeth leol tan ei marwolaeth yn 2007.
John Darwin Hinds
Fel ei chwaer hŷn, gwnaeth John Darwin Hinds gyfraniad aruthrol i Gymru. Dilynodd ei dad i ddechrau gan weithio fel glöwr, cyn symud i Lundain i weithio yn Swyddfa’r Trefedigaethau. Arweiniodd ei waith yno at ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, ac ar ôl dychwelyd i Gymru i fyw, ymunodd â’r Blaid Lafur. Daeth hefyd yn Fwslim ar ôl dod yn ôl i Gymru.
Yn 1958, cafodd John ei ethol i wasanaethu ar Gyngor y Barri, gan ddod yn gynghorydd Mwslimaidd a Du cyntaf Cymru. Roedd yn un o dri chynghorydd lleol oedd yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Gwnaeth hanes eto fel Maer Du cyntaf Cymru ar ôl cael ei ethol yn Faer Bro Morgannwg yn 1975. Gwnaeth John lawer o waith i wella bywydau trigolion de Cymru. Fel ei dad a’i chwaer hŷn, cafodd effaith hollbwysig ar dde Cymru a gwleidyddiaeth Cymru, gan adael etifeddiaeth fawr.
Geirfa
|
arloeswyr |
pobl sy’n gwneud pethau newydd neu am y tro cyntaf, gan helpu i wella bywydau pobl eraill ar y pryd ac wedyn |
|
gwas sifil |
person sy’n gweithio yn un o adrannau’r llywodraeth |
|
trefedigaethau |
gwledydd pell a oedd yn arfer cael eu rheoli gan Brydain |
|
maeres |
dynes/menyw oedd yn cael ei dewis gan y maer i fynd i ddigwyddiadau gydag ef |
|
masnachlongwr |
morwr sy'n gweithio ar longau sy'n cario nwyddau |
Gweithgaredd 1
Mae hanes teulu Hinds yn ein hatgoffa ni ein bod ni i gyd yn gallu gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl eraill. Darllenwch y gerdd ‘People will Always Need People’ gan Benjamin Zephaniah neu gwyliwch y bardd yn adrodd y gerdd, e.e. https://www.youtube.com/watch?v=1suwnlmBlao
Rhestrwch y berfau rydych chi’n eu gweld/clywed, e.e. ‘walk’, ‘talk’. Yn eich barn chi, pam mae’r bardd wedi defnyddio’r holl ferfau hyn yn ei gerdd? Beth maen nhw’n eu dangos i ni am bwysigrwydd pobl eraill?
Mae llawer o eiriau positif eraill yn y gerdd, ar wahân i'r berfau. Chwiliwch am bump o’r geiriau hyn, e.e. ‘tasty’. Pam mae’r bardd yn eu defnyddio nhw yn eich barn chi?
Pa air a/neu linell sy’n cael eu hailadrodd yn y gerdd? Pam mae’r bardd wedi eu hailadrodd yn eich barn chi?
Pam rydych chi’n meddwl bod y gerdd yn dweud ‘From Bombay/To Ostend’? Ble mae’r gwledydd hyn? Beth mae Benjamin Zephaniah yn ei ddweud sy’n debyg amdanyn nhw?
Mae Benjamin Zephaniah eisiau cyfleu yn ei gerdd y dylen ni drin pawb yr un fath. Dylen ni fod yn frodyr ac yn chwiorydd i bawb. Ysgrifennodd y gerdd pan oedd protestiadau yn erbyn hiliaeth. Yn eich barn chi, pam dydy e ddim wedi sôn yn benodol at fewnfudwyr neu bobl Ddu yn ei gerdd, ond wedi cyfeirio at bobl yn gyffredinol?
Gweithgaredd 2
Gwnaeth aelodau o deulu Hinds lawer i helpu pobl yn eu hardal ac ar draws de Cymru. Mae llawer iawn o fewnfudwyr wedi gwneud cyfraniadau arbennig i'w cymunedau yn y gorffennol ac mae hynny’n dal yn wir y dyddiau hyn. Ymchwiliwch i enghraifft o berson/enghreifftiau o bobl yn eich ardal chi heddiw. Beth maen nhw’n ei wneud? Sut maen nhw’n gwneud gwahaniaeth? Beth am gyfweld â nhw, gan baratoi cwestiynau i'w gofyn am eu bywyd a’u gwaith?
Gweithgaredd 3
Yn eich barn chi, pa bethau sydd angen eu gwneud i wella eich ardal? Pa hawliau sydd angen rhoi mwy o sylw iddyn nhw yn eich ardal? Pwy ydy eich cynghorydd lleol? Mewn parau, chwaraewch rôl, gan ddychmygu eich bod yn cwrdd â’ch cynghorydd i drafod mater/materion sy’n bwysig i chi. Dyma rai syniadau:
Cyflwynwch eich hun ac esboniwch pam roeddech chi eisiau cyfle i siarad â’r cynghorydd.
Esboniwch pa bethau, yn eich barn chi, sydd angen eu gwneud i wella eich ardal a/neu pa hawliau sydd angen rhoi mwy o sylw iddyn nhw yn eich ardal. Pam rydych chi’n meddwl hyn?
Rhowch eich syniadau chi am sut i fynd ati i wella’r pethau hyn yn eich ardal.
Diolchwch i'r cynghorydd am ei amser ac am ystyried y pwyntiau.
Nawr, newidiwch rôl gyda’ch partner.
Beth am wahodd eich cynghorydd lleol i’r ysgol i drafod y materion sy’n bwysig i chi fel dosbarth?
Giacomo Bracchi
Wyddoch chi fod Eidalwyr wedi bod yn symud i fyw a gweithio yng Nghymru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Efallai eich bod wedi dod ar draws busnes lleol ag enw Eidaleg arno, fel Berni (Merthyr Tudful), Sidoli (Glyn Ebwy a Phorthcawl), Monti (Doc Penfro), Antoniazzi (Aberystwyth). Ers blynyddoedd lawer, mae’r dylanwad Eidalaidd wedi bod yn rhan bwysig o ddiwylliant a chymunedau ar draws Cymru.
Gadael yr Eidal
Un Eidalwr a wnaeth gyfraniad mawr i gymunedau yng nghymoedd de Cymru oedd Giacomo Bracchi. Teithiodd i Gymru yn ystod y 1880au i weithio yma a dianc o’r tlodi yn ei gartref yn Bardi yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal. Ar ôl cyrraedd Prydain o’r Eidal, gweithiodd ar strydoedd Llundain yn diddanu pobl trwy chwarae cerddoriaeth ar ei organ gelwrn.
Gweld cyfle
Yna, symudodd i dde Cymru lle’r oedd y diwydiant glo yn fusnes mawr. Roedd gweithio yn y pyllau glo yn waith caled a pheryglus, ac mae’n bosib fod Bracchi wedi gwneud hynny am gyfnod. Yng nghanol y pyllau glo, y capeli a’r tafarndai, gwelodd Bracchi fwlch ar gyfer menter newydd: coffi, sglodion a hufen iâ. Ei weledigaeth oedd cael rhywle gwahanol i bobl gyfarfod a dod at ei gilydd fel cymuned.
Heriau
Doedd bywyd ddim bob tro yn hawdd i fewnfudwyr o’r Eidal. Daeth nifer fawr ohonyn nhw o gefndiroedd tlawd iawn a diaddysg, ac roedd rhai pobl mewn rhai cymunedau yn rhoi’r bai ar gam ar fewnfudwyr am ddod ag afiechydon gyda nhw a chreu trafferthion. Yn y dinasoedd, roedd mewnfudwyr o’r Eidal yn byw mewn lleoedd swnllyd a llawn, ac mae’n debyg y byddai Bracchi wedi byw mewn lle fel hyn yn ystod ei amser yn Llundain.
Ehangu
Er yr heriau, gweithiodd Bracchi yn galed i ddatblygu ei fusnes. Ar un adeg, roedd gan y teulu naw caffi. Daeth y cyfenw ‘Bracchi’ yn enwog iawn, gyda phobl yn ardaloedd y Rhondda a Chwm Cynon yn cyfeirio at unrhyw gaffi fel ‘siop Bracchi’. Roedd Bracchi a’i fusnes yn esiampl i eraill o sut i fod yn llwyddiannus, a gosododd batrwm gwych i deuluoedd Eidalaidd eraill oedd am ddilyn yr un llwybr.
Cyfraniadau arbennig
Erbyn diwedd y 1900au, roedd tua mil o fewnfudwyr wedi dod i Gymru o’r Eidal ac mae eu hanesion ysbrydoledig wedi ymddangos mewn llyfrau, dramâu a sioeau cerdd. Mae’r cof am gyfraniadau Bracchi a mewnfudwyr Eidalaidd eraill i gymunedau Cymreig wedi parhau dros y canrifoedd, ac mae enwau eu teuluoedd yn dal i fod yn rhan o fywyd a diwylliant Cymru hyd heddiw.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Defnyddiwch y wybodaeth am Giacomo Bracchi i ystyried y ddau bwynt isod:
Ymchwiliwch ar-lein am ragor o hanes y caffis Eidalaidd yng Nghymru. Beth allwch chi ei ychwanegu at eich rhestri uchod?
Beth mae’r heriau ar un llaw, a’r llwyddiannau ar y llaw arall, yn eu dangos i ni am y mewnfudwyr hyn o’r Eidal? Sut gall eu hanes nhw ein hysbrydoli ni heddiw?
Gweithgaredd 2
Darllenwch y dyfyniad hwn o erthygl ar-lein (https://www.bbc.co.uk/blogs/wales/entries/fdcff8e1-66dc-34e2-b279-a6e7280958cc):
‘Mae'r Eidalwyr wedi gwneud cyfraniad pwysig ac arwyddocaol i fywyd Cymru. Maen nhw wedi ychwanegu at y diwylliant ac wedi dod â lliw ac, weithiau, moethusrwydd i bobl oedd ei angen yn fawr. Yn syml iawn, maen nhw’n rhan o Gymru.’
(i) Sut rydych chi’n meddwl roedd y caffis Eidalaidd yn cynnig lliw a moethusrwydd i fywydau’r Cymru yn y ganrif ddiwethaf? Chwiliwch am dystiolaeth yn y darn darllen ac ymchwiliwch i ragor o’r hanes ar-lein. Gwnewch fap meddwl o’r ffyrdd roedden nhw’n dod â lliw a moethusrwydd i gymunedau yng Nghymru.
(ii) Gwnewch fap meddwl o'r ffyrdd mae Cymry o dras Eidalaidd yn cyfoethogi ein bywydau ni yng Nghymru heddiw. Ymchwiliwch i:
Gweithgaredd 3
Mae llawer iawn o gaffis cadwyn rhyngwladol yn ein trefi a’n dinasoedd ni erbyn heddiw, ond mae'r caffis Eidalaidd yn dal i gynnig profiad cwbl unigryw. Edrychwch ar-lein am luniau o gaffis Eidalaidd yng Nghymru, e.e. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/41756947. Trafodwch y lluniau, gan ddisgrifio beth ydych chi’n ei weld, e.e.
Beth sy’n arbennig amdanyn nhw? Beth ydych chi’n ei feddwl sy’n denu pobl yno o hyd?
Gwreiddiau
Ganwyd Iris de Freitas Brazão ar 29 Hydref 1896 yn Guyana yn Ne America. Ar y pryd, roedd y wlad o dan reolaeth Prydain fel rhan o Ymerodraeth Prydain, ac enw’r wlad oedd ‘Guiana Brydeinig’.
Torri tir newydd
Brazão oedd y cyfreithiwr benywaidd cyntaf yn y Caribî a hi oedd y ddynes gyntaf erioed i erlyn mewn achos o lofruddiaeth mewn llys yno (lle roedd person wedi cael ei gyhuddo o ladd person arall yn fwriadol).
Mentro ymhell o gartref
Yn anarferol iawn yn y cyfnod hwn, bu Brazão yn astudio ymhell iawn o’i chartref, gan wneud ei chwrs gradd ac ennill ei chymwysterau yn y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1922 a 1927. Yno, astudiodd y gyfraith ochr yn ochr ag astudio botaneg, Lladin ac ieithoedd modern. Roedd wedi dechrau ei hastudiaethau mewn prifysgol yn Toronto, Canada cyn trosglwyddo i astudio yn Aberystwyth yn 1918.
Fel dynes Ddu o Guyana, mae’n debygol y byddai pobl wedi synnu ati hi am ddewis astudio’n broffesiynol ben draw’r byd yng Nghymru. Wedi’r cyfan, doedd dim cyfleoedd cyfartal i ferched a dynion, ac roedd dal ffordd hir i fynd cyn y byddai merched yn cael pleidleisio, yn Guyana ac yng Nghymru, er bod mudiad y swffragetiaid yn dechrau ennill momentwm yma. Er i Brazão wynebu hiliaeth, doedd hi ddim am adael i hynny rwystro ei llwyddiant. Yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth, bu’n brysur yn cyfrannu at gymuned y brifysgol fel arweinydd Cyngor Cynrychiolwyr y Myfyrwyr a Llywydd Cyngor Adrannol y Merched.
Dychwelyd i Gyuana
Wedi iddi raddio, aeth yn ôl i fyw yn Guyana, ac ar ôl priodi yn 1937, parhaodd ei gyrfa yn y gyfraith am nifer o flynyddoedd yno. Torrodd ei chalon pan fu farw ei gŵr, Fred (Alfred Casimiro Brazão) pan oedd ar daith i Lundain. Doedd ganddyn nhw ddim plant, felly aeth i aros gyda’i theulu estynedig am 6 mis. Bu farw Iris de Freitas Brazão yn 1989 yn 93 oed.
Cofio ac anrhydeddu
Cafodd ei hanes yn Aberystwyth ei anghofio tan 2016, pan wnaeth staff ddarganfod ei gwisg academaidd. Daethon nhw o hyd i gerdyn post llun yn y boced a oedd yn cynnwys ei llun a’r geiriau hyn yn ei llawysgrifen:
‘Gyda chariad ac er cof am gyfnod pleserus, Iris 1922-23.’
Ar ôl peth ymchwilio, cafodd yr hanes am ei llwyddiant yn Aberystwyth ei ailddarganfod, a chafodd Brazão ei hanrhydeddu ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched yn 2016. Enwyd ystafell yn Llyfrgell Hugh Owen ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ei hôl.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Wrth ddarllen hanes Iris de Freitas Brazão, un o’r geiriau sy’n dod i’r meddwl yw ‘menter’. Pa dystiolaeth o fenter gallwch chi ei gweld o’r darn darllen?
Mewn parau, meddyliwch am o leiaf bump gair arall gallwch chi eu cysylltu â hanes ei bywyd. Pam rydych chi wedi dewis y rhain? Pa eiriau mae gweddill y dosbarth wedi’u dewis – ydyn nhw’n debyg neu’n wahanol i’ch rhai chi?
Roedd enwi ystafell ar ôl Iris de Freitas Brazão ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ffordd o anrhydeddu ei bywyd a’i gwaith. Sut byddech chi wedi dewis ei hanrhydeddu? Pam?
Gweithgaredd 2
Mae’r bardd Alex Wharton wedi ysgrifennu cerdd am Brazão. Gallwch weld y gerdd yn y fan hon: https://cadw.gov.wales/learn/wales-rich-and-diverse-heritage/creative-responses/iris-de-freitas-1896-1989
Edrychwch ar y ddwy linell hon o’r gerdd.
‘Your life is a flagstone in
history.’
Yma, mae’r bardd yn sôn am fywyd Iris de Freitas Brazão yn nhermau llechen mewn palmant neu mewn llwybr. Pam rydych chi’n meddwl bod y bardd wedi dewis y gair ‘flagstone’?
Dyma linellau eraill o’r gerdd:
‘You were never lost, not really.
Resting, maybe – but twinkling all
the same.’
Cafodd yr hanes am Brazão ei anghofio am gyfnod. Ond beth mae’r bardd yn ei ddweud yn y llinellau hyn? Beth yw’r darlun mae’n ei ddefnyddio? Yn eich barn chi, pam mae’n defnyddio’r darlun hwn?
Mewn parau, trafodwch pa ddelwedd arall gallech chi ei defnyddio i ddisgrifio bywyd Brazão. Pam rydych chi wedi dewis y ddelwedd hon?
Gweithgaredd 3
Darllenwch y dyfyniadau isod. Sut rydych chi'n meddwl mae bywyd a gwaith Iris de Freitas Brazão yn cyd-fynd â phob un o’r dyfyniadau?
Yn eich barn chi, pa ddyfyniad yw’r un mwyaf pwerus. Pam?
Wyddoch chi fod Caerdydd wedi bod yn gartref i'r cymunedau Mwslim hynaf yn y Deyrnas Unedig ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (19G)? Un person a helpodd llawer o'r Mwslimiaid i deimlo'n gartrefol yn eu cymunedau newydd yng Nghaerdydd oedd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi.
Ynghanol y 1800au daeth nifer o Fwslimiaid o Yemen a Somalia i weithio yn y diwydiant llongau yn nociau Caerdydd a Chasnewydd. Roedd glo gorau'r byd o Gymru yn cael ei allforio mewn llongau o ddociau Caerdydd i bob rhan o'r byd. Felly roedd llongau o bob rhan o'r byd yn cyrraedd ac yn gadael Caerdydd.
Cliciwch ar y ddwy ddolen isod i weld llongau a gweithwyr dociau Caerdydd yn ystod y ganrif ddiwethaf:
Penderfynodd llawer o'r Mwslimiaid ymgartrefu mewn ardaloedd fel Trebiwt a Bae Caerdydd. Er mwyn helpu'r Mwslimiaid gyda'u ffydd a'u diwylliant, anfonwyd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi o Yemen i Gaerdydd yn yr 1930au. Sefydlodd Abdullah Ali al-Hakimi fosg ar Stryd Peel, Caerdydd. Mae'n debyg mai dyma'r mosg cyntaf yng Nghymru. Roedd yn cynnal dosbarthiadau Quran ar gyfer oedolion a phlant yn y mosg.
Tynnwyd y llun hwn yn 1964 ac mae'n dangos mosg cyntaf Caerdydd :
https://rcahmw.gov.uk/waless-first-purpose-built-mosque/
Roedd Abdulla Ali al-Hakimi hefyd yn annog pob cymdeithas i barchu diwylliant ei gilydd wrth i Fwslimiaid o Yemen a Somalia briodi gwragedd o Gymru. Wrth ddathlu Id al-Fitr, roedd yn annog y cymunedau Mwslimaidd o Yemen a Somalia i wisgo gwisgoedd traddodiadol Arabaidd. Roedd yn arwain gwyliau Arabaidd. Dyma lun ohono'n arwain gorymdaith ar hyd strydoedd Caerdydd yn ystod Eh Ehteffel, sef seremoni grefyddol Islam, ar 22ain Awst, 1937:
Wyddoch chi fod y papur newydd Arabeg cyntaf ym Mhrydain wedi cael ei argraffu yn Nhrebiwt (Butetown) rhwng yr 1930au a’r 1950au? Enwodd Abdullah Ali al-Hakimi y papur newydd yn Al-salam. Roedd pobl gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol yn darllen Al-salam.
Cyfrannodd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi tuag at sefydlu'r safle claddu Mwslimaidd cyntaf yng Nghymru yn Nhrelái, sydd i'w weld hyd heddiw.
Gweithgaredd 1
Mae mwy na 40 mosg yng Nghymru. Wyddoch chi fod 18 mosg yng Nghaerdydd, yn cynnwys mosgiau ar gyfer cymunedau Somali, Arabaidd, Bangladeshi a Phacistanaidd?
Dewch o hyd i'r mosg agosaf at eich ysgol: https://www.google.com/maps/d/viewer?mid=1RyTLAgfnWPv26QZLp82D8c4l23lD2E2G&ll=52.375159700693644%2C-4.006095350000001&z=8
Chwiliwch arlein am lun o ystafell weddi yn y mosg newydd ar Stryd Alice a ddaeth yn lle hen fosg Stryd Peel.
Pam bod y mosg yn bwysig i'r Mwslimiaid?
Beth sy'n digwydd yno?
Gweithgaredd 2
Al-Salam oedd y papur newydd Arabeg cyntaf ym Mhrydain. Roedd yr Arabiaid yn darllen y papur newydd er mwyn cael gwybod beth oedd yn digwydd yn eu cymdeithas, yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn y byd. Roedd Sheikh Abdullah Ali al-Hakimi yn un o arweinwyr Mudiad Rhyddid Yemen, grŵp oedd yn brwydro dros sefydlu llywodraeth ddemocrataidd yn y wlad honno.
Trwy ba ffyrdd neu gyfrwng mae pobl yn derbyn y newyddion erbyn hyn?
Beth ydy prif benawdau’r newyddion heddiw?
Sut gallwn ni sicrhau bod y newyddion rydyn ni'n ei ddarllen yn wir ac yn gywir?
Sut mae’r newyddion a’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen yn dylanwadu ar y ffordd rydyn ni’n meddwl?
Gweithgaredd 3
Beth am greu cynllun neu fodel o fosg?
Am rai syniadau, ewch i:
How to build mosque from cardboard #very easy#
https://www.youtube.com/watch?v=vdCVd9LCOy4
Nicholas Winton
“Fy nghred i ydy, os nad ydy rhywbeth yn amhosib, mae'n rhaid bod ffordd o’i wneud.” (Nicholas Winton)
“Edmygwyd fy nhad gan sawl person, gan gynnwys y prif weinidog. Ond yn anffodus, dydy’r edmygedd hwnnw ddim wedi arwain at ddilyn ôl ei droed o ran cynorthwyo plant sy’n ffoaduriaid heddiw.” (Barbara Winton)
Ewrop cyn y rhyfel
Cafodd Nicholas Winton ei eni yn Llundain yn 1909, yn fab i rieni Iddewig. Yn 1938, pan oedd e’n 29 oed, roedd wedi trefnu mynd ar wyliau sgïo, ond cafodd ei berswadio gan ffrind i fynd i Tsiecoslofacia yn nwyrain Ewrop yn lle hynny, i weld drosto ef ei hun pa mor wael oedd y sefyllfa yno. Dan arweinyddiaeth yr unben Adolf Hitler, roedd pwerau Natsïaidd yr Almaen wedi meddiannu Tsiecoslofacia, gan wneud degau o filoedd o bobl yn ddigartref. Doedd neb yn sylweddoli ar y pryd bod yr Ail Ryfel Byd ar fin torri ar draws Ewrop. Cafodd Winton fraw wrth weld gwersylloedd y ffoaduriaid yn Tsiecoslofacia a gweld bod cynifer o bobl yn byw ynddyn nhw.
Penderfynu gweithredu
Yn syth, penderfynodd Winton ei fod am wneud rhywbeth i helpu a dechreuodd edrych am ffyrdd o gynorthwyo’r plant yn y gwersylloedd. Yn ddewr, aeth ati i bledio ei achos i lywodraeth y Deyrnas Unedig a gofyn iddyn nhw ei gynorthwyo i ddod â phlant i’r DU. Cytunon nhw ar ddau amod:
Byddai angen i bob plentyn ddod â £50 oddi wrth eu teuluoedd gyda nhw.
Byddai’n rhaid i bob plentyn fynd at deulu a fyddai’n gofalu amdanyn nhw yn y DU tan eu bod yn 18 oed.
Roedd Winton yn gwybod bod yr amodau hyn yn amhosib i nifer o blant, felly ynghyd â grŵp bychan o deuluoedd a chyfeillion, gweithiodd yn ddi-stop i godi arian a chanfod teuluoedd yn y DU a fyddai’n barod i gymryd y plant yma i’w cartrefi.
Yn rhyfeddol, mewn cyfnod byr iawn, llwyddodd i achub 669 o blant, a chafodd pob un gartref yn y DU. Fyddai nifer fawr ohonyn nhw byth yn gweld eu teuluoedd eto, am eu bod wedi eu lladd yn y rhyfel neu mewn gwersyll crynhoi. Ni lwyddodd y trên olaf gyda 250 o blant arno i adael yr orsaf, ac yn drist ofnadwy does neb yn gwybod beth ddigwyddodd i’r plant hynny.
Plant Iddewig yn Nghymru
Bu Cymru’n noddfa i’r plant a ddaeth ar y Kindertransport, a chawson nhw eu croesawu i amryw gymunedau o amgylch y wlad. Daeth Castell y Gwrych ger Abergele yng ngogledd Cymru yn gartref i 200 o blant 14-18 oed. Yno, dan arweinyddiaeth Rabbi Sperber, rhoddwyd addysg iddyn nhw a darparwyd rhaglenni hyfforddiant yn y gymuned. Daethon nhw’n agos at y bobl leol. Cawson nhw gyfle i wneud chwaraeon a sefydlwyd Clwb Pêl-droed Castell y Gwrych a enillodd sawl gêm yn erbyn timau lleol. Gyda'u tafod yn eu boch, roedden nhw'n galw'n rhain yn 'gemau rhyngwladol'.
Yn Llanwrtyd ym Mhowys, canolbarth Cymru, sefydlodd llywodraeth Tsiecoslofacia ysgol ar gyfer 120 o blant y wlad, a chawson nhw hefyd eu cofleidio gan y gymuned. Mewn cyngerdd a gynhaliwyd yn yr ysgol i’r bobl leol, canodd y plant 'Hen Wlad fy Nhadau'. Mae Vera Gissing o Prague, a oedd yn ddisgybl yno, yn cofio bod “deigryn yn llygaid pob aelod o’r gynulleidfa”.
Croeso Cymreig
Cofia’r cyn-ddisgybl Frank Schwelb hefyd “yn dwymgalon am y Cymry a groesawodd e" a’i gyd-ddisgyblion “ac a fu mor garedig ar adeg anodd”. Yn ddiweddarach, gefeilliwyd tref Llanwrtyd â thref Český Krumlov yng Ngweriniaeth Tsiec, a rhoddodd y cyn-ddisgyblion gylch aur i’r dref i greu cadwyn i faer Llanwrtyd.
Cafodd y plant a achubwyd gan Nicholas Winton hefyd groeso mewn ardaloedd eraill o Gymru, fel Castell Llandochau ym Morgannwg ac Ysgol Tŷ Aryeh yng Nghastell Bronwydd yng Ngheredigion. Cafodd nifer hefyd gartref ar aelwydydd teuluoedd Cymreig.
Ar ôl y rhyfel
Dyn di-ffws oedd Winton ac nid oedd byth yn sôn am yr hyn a wnaeth yn ystod y rhyfel. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, priododd a chafodd blant, ac aeth ymlaen i fod yn fanciwr.
Dim ond wrth glirio atig eu tŷ y daeth Winton a’i wraig ar draws papurau’r cyfnod a phenderfynu eu cyflwyno i amgueddfa. Ychydig yn ddiweddarach yn 1988, cafodd y rhaglen ‘That’s Life’ ar y BBC afael ar y stori a chafodd Winton wahoddiad i fod yn westai ar y rhaglen. Heb yn wybod iddo, roedd nifer o’r plant a achubodd (a oedd bellach yn oedolion) yn eistedd o’i gwmpas yn y gynulleidfa a chafodd gyfarfod â nhw.
Mynnodd Winton ei fod wedi gwneud beth fyddai unrhyw un yn ei sefyllfa e wedi ei wneud. Ond yn anffodus, nid oedd eraill wedi gwneud yr un peth ag e, a thra ei fod wedi llwyddo i achub dros 600 o blant, bu llawer iawn mwy farw mewn gwersylloedd ffoaduriaid neu wersylloedd crynhoi.
Cydnabyddiaeth
Cafodd Winston gydnabyddiaeth gan lywodraethau Prydain a’r Weriniaeth Tsiec am yr hyn a wnaeth, ac roedd y rhai a achubwyd gan y Kinderstansport yn ddiolchgar tu hwnt iddo ef ac i’r cymunedau yng Nghymru a groesawodd nhw i’w plith.
Erbyn hyn, mae cenhedlaeth newydd o bobl yn gwybod am yr hyn a wnaeth Nicholas Winton, gan i'r ffilm One Life amdano gael ei rhyddhau yn 2023, gyda’r Cymro Anthony Hopkins yn chwarae rôl Winton – yr arwr a achubodd 669 o blant.
Geirfa
|
unben |
arweinydd sy’n gwneud penderfyniadau heb sêl bendith unrhyw un arall |
|
gwersyll ffoaduriaid |
gwersyll dros dro ar gyfer pobl sydd wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi - yn aml iawn mae amodau byw y gwersylloedd yma’n ofnadwy |
|
ffoadur |
person sy’n dianc o’u gwlad am eu bod yn poeni am eu diogelwch |
|
gwersyll crynhoi |
lle caiff nifer fawr o bobl eu carcharu mewn lle bach heb ddigon o gyfleusterau, a’u gorfodi i weithio neu aros i gael eu lladd |
|
Kindertransport |
term Almaeneg am 'drafnidiaeth plant' – sef cynllun i achub plant o wledydd wedi eu cipio gan yr Almaen cyn dechrau’r Ail Ryfel Byd. |
Dolenni defnyddiol a gwybodaeth bellach:
Llyfr: If it’s not impossible: The life of Sir Nicholas Winton – Barbara Winton
Gweithgaredd 1
Dywedodd Nicholas Winton, "Rwy’n creu mewn moesau. Tasai pawb arall yn credu mewn moesau, fyddai dim problem gyda ni o gwbwl. Dyna’r unig ffordd allan; anghofiwch am yr ochr grefyddol.”
Er bod Winton wedi ei eni yn fab i rieni Iddewig o’r Almaen, doedd e ddim yn grefyddol.
I ba raddau rydych chi’n cytuno â’i eiriau?
Gweithgaredd 2
Mae Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig, sef AJR, wedi cofnodi straeon llawer o ffoaduriaid - AJR My Story
Mae’r straeon wedi eu hysgrifennu i ddathlu bywydau ffoaduriaid a chynnig gobaith i’r rheini heddiw sy’n dioddef oherwydd hil-laddiad a gwrthdaro.
Sut gallwn ni ddefnyddio iaith a hefyd ein profiadau ni i gefnogi eraill?
Gweithgaredd 3
I ddathlu eu pen-blwydd yn 80, yn 2021-22 plannodd Cymdeithas y Ffoaduriaid Iddewig (AJR) 80 coeden derw o gwmpas Prydain i ddathlu a chofio’r bobl a’r lleoedd a gynorthwyodd ffoaduriaid Iddewig: 80 Trees for 80 Years – AJR
John Petts
Yn gyson drwy hanes, mae Cymru wedi ei chysylltu gyda gweddill y byd mewn ffyrdd dylanwadol. Un esiampl ym myd celf yw John Petts. Er i John Petts gael ei ei eni yn Lloegr ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, yn 1935 symudodd e i Lanllechid yng Ngwynedd a dechreuodd ei yrfa ym myd celf. Cydweithiodd Petts gyda’r bardd Alun Lewis i ddarlunio darnau i gylchgronau Cymraeg, ac ynghyd â’i wraig Brenda Chamberlain, sefydlodd gwmni Caseg Press i argraffu cardiau a thirluniau lleol.
Defnyddiodd Petts amrywiaeth o gyfryngau celf yn ei waith, a daeth yn adnabyddus am ei waith cerfio pren, argraffu sgrin, dylunio a darlunio. Cydweithiodd gyda Chyngor Celfyddydau Prydain a Chyngor Celfyddydau Cymru, ond newidiodd llwybr ei yrfa pan gymerodd swydd fel darlithydd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 1957. Yma dechreuodd ganolbwyntio ar greu ffenestri lliw. Oherwydd y gwaith hwn a hefyd oherwydd ei safiad yn erbyn hiliaeth rydym yn cofio'n bennaf am Petts heddiw.
Ffenest Cymru Alabama
Ar Fedi’r 15fed 1963 yn Birmingham, Alabama yn Unol Daleithiau America, cafodd bom ei osod a’i ffrwydro gan grŵp y Ku Klux Klan (grŵp goruchafiaeth gwyn) yn Eglwys Bedyddwyr 16th Street - eglwys oedd yn bennaf yn gwasanaethu pobl Ddu. Anafwyd nifer o bobl yn yr ymosodiad terfysgol hwn, a lladdwyd Cynthia Westley (14 oed), Carol Robertson (14 oed), Denise McMair (11 oed) ac Addie-May Collins (14 oed), a oedd yn mynychu’r ysgol Sul ar y pryd.
Pan glywodd John Petts y newyddion hwn, aeth ati i ddylunio ffenest liw newydd i’w hanfon at aelodau’r eglwys yn Alabama. Roedd y ffenest yn dangos Iesu Grist â chroen du ar y groes yn gwthio casineb oddi wrtho. Cododd John Petts arian ymysg y Cymry hefyd er mwyn ei anfon dros y dŵr i adeiladu Eglwys Bedyddwyr newydd yn 16th Street. Mae sôn am blant o bob cefndir yn ciwio mewn llinell ym Mae Caerdydd i roi eu harian poced at yr achos. Cafodd y ffenest a’r arian eu hanfon gyda’r neges 'Rhoddwyd gan Bobl Cymru'.
Aeth Petts ymlaen i greu nifer o ffenestri lliw i eglwysi ar draws Cymru a chafodd ei waith celf ei arddangos ar draws y byd, yn cynnwys Prydain, Unol Daleithiau America a Hong Kong.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Dychmygwch mai chi sy’n ysgrifennu’r llythyr at bobl Eglwys Bedyddwyr 16th Street a fydd yn cael ei anfon gyda’r ffenest newydd. Trafodwch y pwyntiau hyn mewn grŵp:
Gweithgaredd 2
Ar waelod Ffenest Cymru, mae’r geiriau hyn wedi eu nodi: ‘You Do It To Me’. Mae’r geiriau’n cyfeirio at Matthew 25:40 o’r Beibl, lle mae Iesu Grist yn dweud os ydy person yn niweidio person arall, eu bod yn niweidio Iesu hefyd. Beth ydych chi’n meddwl ydy arwyddocâd y geiriau?
Fel unigolyn neu fel grŵp, ewch ati i ddylunio ffenest liw newydd. Bydd angen ystyried y pethau hyn:
Gweithgaredd 3
Mae ffenestri lliw John Petts i’w gweld mewn lleoliadau ar draws Cymru. Ymchwiliwch ar y we i’w ffenestri gwydr. Ble maen nhw i’w gweld a beth yw enw pob un o’r ffenestri hynny?
Roy Francis
Mae pobl o hyd yn cofio pwy oedd y cyntaf i wneud pethau. Neil Armstrong oedd y cyntaf i gerdded ar y lleuad. Roger Bannister oedd y person cyntaf i redeg milltir o dan bedair munud, a Muhammad Ali oedd y bosciwr cyntaf i ennill pencampwriaeth pwysau trwm y byd dair gwaith. Y person Du cyntaf yng ngwledydd Prydain i hyfforddi unrhyw chwaraeon yn broffesiynol oedd dyn o’r enw Roy Francis.
Yng nghyfnod Roy Francis, yn y 1930au, roedd pobl Ddu ym myd chwaraeon yn cael eu gwahardd rhag cymryd rhan yn aml iawn, er enghraifft ym myd bocsio. Ond roedd pethau’n dechrau newid yn rygbi’r gynghrair, a Roy Francis oedd un o’r bobl Ddu gyntaf i lwyddo yn y gamp.
Bywyd cynnar
Cafodd Roy Francis ei eni mewn lle o’r enw Brynmawr yng Ngwent yn 1919, ac roedd yn byw yn ardal Tiger Bay yng Nghaerdydd. Bu’n chwarae rygbi’r undeb i Glwb Rygbi Brynmawr, ond pan oedd yn ddim ond 17 oed symudodd i chwarae rygbi’r gynghrair yn Wigan, gogledd Lloegr.
Ei yrfa
Cafodd yrfa lwyddiannus a chafodd ei ddewis i chwarae dros wledydd Prydain. Ond yn 1948 ni chafodd ei ddewis i fynd ar daith i Awstralia. Mae rhai yn meddwl mai'r rheswm oedd bod y trefnwyr yn ofni y byddai hyn yn achosi problemau, gan fod gan Awstralia bolisïau hiliol a oedd yn gwahaniaethu yn erbyn poblogaeth gynfrodorol eu gwlad eu hunain yn y cyfnod hwn. Yn yr un flwyddyn, ymunodd Roy Francis gyda chlwb Warrington am £800. Yn 1954, cafodd ei benodi yn hyfforddwr tîm Hull a bu’r tîm yn llwyddiannus iawn, gan ennill y Bencampwriaeth ddwy waith.
Hiliaeth
Yn 1957, arwyddodd Hull chwaraewr gwyn o Dde Affrica o’r enw Mervyn McMillan. Doedd Mervyn McMillan ddim yn hapus fod gan ei dîm newydd hyfforddwr Du, gan ddweud na fyddai Roy Francis yn cael hyfforddi petaen nhw yn Ne Affrica. Oherwydd ei eiriau hiliol, chafodd y chwaraewr hwn ddim chwarae i dîm Hull, a chafodd ei ddiswyddo yn syth o’r clwb.
Arweinydd arloesol
Roedd dulliau Roy Francis o hyfforddi yn dangos ei fod o flaen ei amser. Roedd yn dysgu’r cefnwyr i daclo fel blaenwyr, ac yn dysgu’r blaenwyr i basio fel cefnwyr. Roedd e hefyd gyda’r cyntaf i wylio fideo o’r gemau ar ôl eu chwarae, i weld sut gallai’r chwaraewyr wella eu perfformiad. Mae bob tîm proffesiynol yn gwneud hyn erbyn heddiw. Ar ei ymddeoliad fel hyfforddwr, roedd llawer yn dweud mai Roy Francis oedd un o’r hyfforddwyr gorau roedd y gêm wedi’i gweld erioed.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Talwyd swm o £800 i arwyddo Roy Francis yn 1948. Ewch ar y we i chwilio faint fyddai gwerth £800 heddiw.
Ymchwiliwch i'r cyfansymiau sy’n cael eu talu erbyn heddiw i arwyddo chwaraewyr gwahanol gampau a thrafodwch effaith hyn ar y gêm.
Oes tystiolaeth o anghyfartaledd o gwbl yn y cyfansymiau hyn, e.e. rhwng dynion a merched neu rhwng chwaraewyr o wahanol gefndiroedd?
Gweithgaredd 2
Yn 1957 cafodd y chwaraewr gwyn Mervyn McMillan ei ddiswyddo am fynegi barn hiliol am liw croen yr hyfforddwr.
Roedd e’n dod o Dde Affrica, ac roedd rheolau apartheit yn y wlad honno ar y pryd.
Trafodwch sefyllfa apartheit De Affrica ar y pryd ac ymchwiliwch i beth oedd yr ymateb yng Nghymru pan ddaeth tîm rygbi De Affrica ar daith yma ym 1969.
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/swansea-rfc-south-africa-apartheid-19955879
Sut byddech chi wedi ymateb?
Gweithgaredd 3
Yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd pobl Ddu ym myd chwaraeon yn cael eu gwahardd rhag cymryd rhan yn aml iawn, er enghraifft y rheol hiliol ‘bar lliw’ ym myd bocsio.
Roedd Cuthbert Taylor ac Arnold Kid Sheppard – dau focsiwr talentog – wedi dioddef oherwydd y rheol yma. Ymchwiliwch i'w hanes nhw a thrafodwch effaith y gwaharddiad hiliol yma.
Abdulrahim Abby Farah
Bywyd cynnar Farah
Roedd Abdulrahim Abby Farah yn wleidydd ac yn ddiplomydd. Cafodd ei eni yn y Barri ar 22 Hydref 1919.
Cafodd ei dad, Abby Farah, ddylanwad mawr arno. Roedd ei dad yn dod o Somalia yn wreiddiol ac yn arweinydd yn y gymuned Somali yn y Barri. Agorodd ‘Domino Club’, sef clwb oedd yn croesawu plant o bob cefndir ethnig, gan eu hannog i gwrdd a chymdeithasu. Pan oedd yn 11-14 oed, roedd Farah yn gofalu am ei fam gan ei bod yn sâl iawn. Parhaodd ei ofal a'i dosturi tuag at bobl eraill drwy gydol ei fywyd.
Somalia
Yn 1938, ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, pan oedd Farah yn 17 oed, anfonodd ei dad ef i Somalia (i’r rhan a oedd dan reolaeth Prydain ar y pryd). Roedd ei frawd, sef Abdillahi, eisoes yn byw yn Somalia a gweithiodd Farah i'r llywodraeth yno. Dechreuodd weithio ar lefel isel ond cafodd ei ddyrchafu’n gyflym.
Astudio
Yn 1947, oherwydd ei waith rhagorol, cafodd Farah ei ddewis i fynd i Loegr i astudio. Pan ddychwelodd i Somalia, cafodd ei wneud yn Gomisiynydd Rhanbarthol. Unwaith eto, cafodd Farah gyfle i barhau â'i addysg a dychwelodd i Brydain yn 1951 i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen. Pan ddaeth Somalia yn wlad annibynnol yn 1960, dychwelodd Farah yno i fyw.
Ei waith fel diplomydd
Daeth Farah yn ddiplomydd pwysig. Gwnaeth ei farc yn gyflym ar lefel ryngwladol. Roedd yn adnabyddus am fod yn siaradwr huawdl, yn weithgar ac yn benderfynol.
Dyma rai o’r rolau allweddol a wnaeth Farah yn ystod ei fywyd:
Yn 1961, cafodd ei wneud yn llysgennad cyntaf Somalia i Ethiopia tan 1965.
Yn 1965, Farah oedd llysgennad cyntaf Somalia i Ganada.
Yn 1965, daeth Farah hefyd yn Gynrychiolydd Parhaol Somalia i'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r Cenhedloedd Unedig yn cynnwys gwledydd o bob rhan o'r byd sy'n cydweithio tuag at heddwch, ac at gysylltiadau cyfeillgar rhwng cenhedloedd. (Ewch i https://www.un.org/cy/about-us am ragor o wybodaeth am y Cenhedloedd Unedig.)
Rhoddwyd llawer o swyddi allweddol eraill i Farah yn y Cenhedloedd Unedig. Yn 1969, daeth yn Gadeirydd Pwyllgor Arbennig y Cenhedloedd Unedig yn Erbyn Apartheid. Helpodd y Pwyllgor Arbennig hwn i ryddhau Nelson Mandela o'r carchar yn 1990. (Gallwch ddysgu mwy am Nelson Mandela ar wefannau fel https://www.youtube.com/watch?v=yjYm78K6aNI)
Yn 1971, Farah oedd llywydd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. I Farah, un o’r pethau mwyaf a gyflawnodd yn ei yrfa oedd trefnu bod cyfarfod Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn un o brifddinasoedd Affrica (sef Addis Ababa) am y tro cyntaf. Cyn hynny, ers 1952, roedd bob amser wedi ei gynnal yn Efrog Newydd.
Cafodd Farah ei ddyrchafu eto sawl gwaith, ac yn fuan daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol. Yn y rôl hon, cafodd ei anfon i ddelio â thrafodaethau sensitif ar draws Affrica. Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn gweithio ar ran pobl y byd, ond yn enwedig y rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth.
Yn y 1980au, newidiodd Farah ei ffocws i gymorth dyngarol. Yn y gwaith hwn, gallai ddefnyddio ei holl brofiad blaenorol i gydlynu cymorth rhyngwladol.
Cafodd ddyrchafiad eto a daeth yn Is-ysgrifennydd Cyffredinol ar gyfer Cwestiynau Gwleidyddol Arbennig. Roedd yn ffigwr allweddol wrth sefydlu'r Swyddfa Gweithrediadau Brys yn Affrica.
Gadael gwaddol arbennig
Pan ymddeolodd Farah, dywedodd Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Cenhedloedd Unedig, sef Thomas Pickering, “Llongyfarchiadau gen i a holl dîm yr Unol Daleithiau am wneud gwaith hollol wych.”
Ar ôl ymddeol, parhaodd Farah â’i waith dyngarol. Sefydlodd ysbyty yn Somalia, er enghraifft, ar gyfer pobl a oedd wedi eu niweidio gan ffrwydron tir.
Am y rhan fwyaf o'i fywyd, bu Farah yn byw dramor, ac roedd ei waith yn gysylltiedig yn bennaf ag Affrica. Eto i gyd, ni chollodd ei acen Gymreig ac ni anghofiodd ei wreiddiau Cymreig yn y Barri. Mae ei berthnasau yn parhau i gyfrannu'n helaeth at waith cymunedol yn ardal y Barri. Mae Steve Khaireh, er enghraifft, wedi derbyn gwobrau am ei waith yn helpu’r gymuned, gan gynnwys MBE am weithio gyda phobl ifanc. Wrth fyfyrio ar ei fywyd a’i yrfa mewn digwyddiad teuluol, dywedodd Farah, “Wnes i erioed yn fy mywyd geisio na gofyn am ddyrchafiad. Roeddwn i’n dibynnu ar fy nghymeriad a fy ngonestrwydd i agor y ffordd i mi.”
Geirfa
|
comisiynydd rhanbarthol |
person allweddol sy’n rheoli ardal benodol yn y wlad ar ran y llywodraeth |
|
diplomydd |
person sy’n rheoli’r berthynas rhwng gwledydd |
|
dyngarol |
yn helpu i wella lles a hapusrwydd pobl |
|
huawdl |
yn siarad yn wych, gan ddefnyddio iaith mewn ffordd glyfar |
|
llysgennad |
person sy’n cael ei anfon gan y llywodraeth i fod yn brif gynrychiolydd mewn gwlad dramor |
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Dywedodd Farah ei fod yn cael swyddi allweddol oherwydd ei gymeriad, nid am ei fod yn gofyn am gael ei ddyrchafu.
Rydyn ni’n dysgu am gymeriad Farah o’i stori. Sut rydyn ni'n gwybod bod y disgrifiadau hyn yn wir amdano? Chwiliwch am un enghraifft o bob un.
• gofalgar
• trugarog
• cyfrifol
• diwyd
• effeithiol
• llwyddiannus
• gwylaidd
• perswadiol.
Gweithgaredd 2
Cyflawnodd Farah lawer o bethau yn ei fywyd. Dewiswch dri o'i gyflawniadau mwyaf yn eich barn chi. Pam rydych chi wedi dewis y rhain? Cymharwch eich atebion â barn aelodau eraill o’ch dosbarth. Ydy eu dewisiadau nhw’n debyg neu'n wahanol i'ch rhai chi? Pam?
Gweithgaredd 3
Roedd helpu eraill yn bwysig i Farah o oedran ifanc ac aeth ymlaen i wneud gwaith dyngarol pwysig ar lefel ryngwladol.
Dydy cymorth dyngarol, wrth gwrs, ddim yn gyfyngedig i rôl gwleidyddion. Un ffordd amlwg y gallwn ni i gyd gymryd rhan yw trwy gyfrannu at waith elusennol.
Chwiliwch ar-lein am elusennau sy'n cefnogi achosion dyngarol yn Affrica.
Fel dosbarth, gweithiwch mewn grwpiau bach i ymchwilio i un o'r elusennau hyn, gyda phob grŵp yn edrych ar elusen wahanol. Pa faterion mae eich elusen chi’n canolbwyntio arnyn nhw? Pam? Pa wahaniaeth mae’r elusen hon yn ei wneud? Sut maen nhw'n codi arian? Pa fath o ymgyrchoedd maen nhw'n eu cynnal?
Ffurfiwch grwpiau newydd fel bod pob aelod o’ch grŵp newydd yn cynrychioli gwahanol elusen. Cyflwynwch ganlyniadau eich ymchwil i weddill y grŵp hwn. Gwrandewch hefyd ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu am eu helusennau, a gwnewch nodiadau ar eu prif bwyntiau.
Dychwelwch i'ch grŵp gwreiddiol. Dychmygwch eich bod chi’n cael £150 yr un i’w wario ar un o’r elusennau rydych chi wedi ymchwilio iddyn nhw fel dosbarth. A fyddech chi'n rhoi eich holl arian i un elusen, neu'n ei rannu rhwng sawl un? Pa elusen/elusennau byddech chi'n ei chefnogi/eu cefnogi a pham? Trafodwch fel grŵp. Ydy eich barn yn debyg neu'n wahanol? Pam?
Mario Ferlito
Eglwys y Carcharorion, Henllan
Mae llawer o eglwysi gwych i’w gweld yng Nghymru, a nifer ohonyn nhw’n eglwysi cadeiriol. Mae wedi cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, ac wedi costio arian mawr. Ond mewn pentref bach yn Nyffryn Teifi rhwng Castellnewydd Emlyn a Llandysul mae un o’r eglwysi mwyaf hynod, nid yn unig yng Nghymru ond yn y byd.
Eglwys y Carcharorion, Henllan ydy’r enw arni, ac o edrych ar yr adeilad o’r tu allan mae golwg fel hen gwt sinc ar yr eglwys. Ond y tu mewn, mae hanes rhyfeddol iddi, ac mae addurniadau anhygoel yn harddu’r lle. Dyma hanes un carcharor yn arbennig o’r enw Mario Ferlito.
Carcharorion rhyfel yn dod i Gymru
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd carcharorion eu cipio mewn brwydrau a’u cludo i Brydain o wahanol wledydd yn Ewrop a gogledd Affrica. Roedd carcharorion o’r Eidal a'r Almaen wedi dod i ardaloedd yng Nghymru, ac roedd nifer ohonyn nhw wedi dod i ardal Dyffryn Teifi, gan aros yng Ngwersyll y Carcharorion yn Henllan rhwng 1943 a 1947.
Bydden nhw’n cael eu hanfon ar gefn lori i weithio ar ffermydd lleol yn ystod y dydd, ac yn cael eu cludo yn ôl i’r gwersyll yn y nos.
Mario Ferlito
Un o’r carcharorion hyn oedd Mario Ferlito. Cafodd ei eni yn 1922 mewn pentref bach o’r enw Oleggio Castello yng ngogledd yr Eidal. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei anfon i’r fyddin i ymladd dros yr Eidal, fel miloedd tebyg iddo. Yn ystod y rhyfel, cafodd ei ddal fel carcharor.
Lle i addoli
Cyrhaeddodd Ferlito yr Alban, ac oddi yno cafodd ei anfon i dde Cymru. Bu’n aros yn ngwersyll Eglwyswrw, gan weithio mewn llefydd fel Boncath, Aberteifi, Cilgerran a Threfdraeth, cyn cael ei anfon i Wersyll Carcharorion Henllan i weithio yn y ffreutur.
Roedd yn un o tua mil o ddynion oedd yn y gwersyll yn ystod y rhyfel. Yn ystod ei gyfnod yno, penderfynwyd troi un o’r cytiau yn rhyw fath o eglwys i’r carcharorion gael addoli, a chafodd y gwaith o addurno’r eglwys ei roi i Ferlito. Enwyd yr eglwys yn Eglwys y Galon Gysegredig.
Doedd gan Ferlito ddim deunyddiau na phaent i wneud y gwaith, felly roedd yn rhaid iddo ddod o hyd i’w ddeunyddiau ei hun. Ar gyfer y gwahanol liwiau, roedd yn defnyddio pethau fel coffi, bresych coch, mefus a blodau. Tuniau bwyd gwag a darnau o bren oedd yn dal y canhwyllau. Adeiladwyd allor fel canolbwynt i’r eglwys, ac uwchben honno tynnodd Ferlito lun ffresco o’r Swper Olaf. (Y Swper Olaf ydy’r hanes yn y Beibl sy’n sôn am swper olaf Iesu Grist gyda’i ddisgyblion cyn iddo fynd i’r groes.)
Tynnodd Ferlito luniau ar drawstiau’r to hefyd, ac mae’r rhain i gyd i’w gweld hyd y dydd heddiw. Roedd yn gwneud y cyfan yn ei amser sbâr, heb unrhyw arian i brynu deunyddiau ar gyfer y gwaith.
Darganfod yr hanes
Wedi i’r rhyfel orffen, a llawer o’r carcharorion wedi mynd nôl i’w gwledydd, cafodd gwersyll y carcharorion ei ddefnyddio fel stad ddiwydiannol fach. Dros y blynyddoedd, cafodd enw Mario Ferlito ei anghofio, a neb yn gwybod pwy oedd yr artist anhygoel a harddodd yr Eglwys yn Henllan. Roedd yn ddirgelwch!
Ond 30 mlynedd yn ddiweddarach, dechreuodd athro o’r enw Jon Meirion Jones a phlant Ysgol y Ferwig ymchwilio i’r hanes, a daethon nhw o hyd i enw Mario Ferlito. Penderfynon nhw anfon llythyr ato, a chawson nhw ateb.
Roedd yr Eidalwr wrth ei fodd fod pobl yn dal i gofio amdano, a phenderfynwyd ei wahodd i Gymru i weld yr hen eglwys unwaith eto. Roedd yn brofiad dirdynnol iddo, ac yn un a arhosodd yn ei gof am byth.
Bu farw Ferlito yn yr Eidal ar Fai 1af 2009. Os ydych chi am wybod mwy am hanes Mario Ferlito a’r eglwys yn Henllan, mae’r cyfan i’w gael yn llyfr gwych Jon Meirion Jones, Y Llinyn Arian.
Aros yng Nghymru
Roedd Mario Ferlito wedi mynd yn ôl i’r Eidal ar ôl y rhyfel, ond roedd rhai o’r carcharorion eraill wedi aros yn yr ardal. Gallwch chi weld hyn yn yr enwau Eidalaidd sydd yn Nyffryn Teifi hyd heddiw, fel Sarraccini, Savinelli, Vasami, Currado, Sisto ac eraill.
Un o’r Eidalwyr oedd wedi aros yng Nghymru oedd dyn o’r enw Vito Schiavone. Gweithiodd ar fferm o’r enw Cilfallen heb fod ymhell o Henllan, ac yno syrthiodd mewn cariad ag Eluned, un o ferched y fferm. Mae disgynyddion y ddau yn byw ar hyd a lled Cymru a thu hwnt erbyn hyn. Mae Owain Schiavone, ŵyr Vito, yn brif weithredwr cwmni Golwg ac yn trefnu gwobrau Selar yn flynyddol.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Trafodwch mewn grwpiau:
Yn eich barn chi
Gweithgaredd 2
Ar ôl y rhyfel, arhosodd rhai o’r Eidalwyr yng Nghymru. Un o’r rhain oedd Vito Schiavone ac mae ei deulu’n dal yn byw yng Nghymru heddiw. Ymchwiliwch i hanes rhai aelodau o’i deulu. Beth ydych chi’n ei ddysgu amdanyn nhw? e.e. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/68435301 a https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49083007
Oes pobl o dras Eidalaidd yn eich ysgol neu eich ardal chi? Holwch am eu hanes. Pam a phryd daeth y teulu i Gymru? Beth fu eu hanes nhw fel teulu ers dod yma?
Gweithgaredd 3
Roedd Mario Ferlito yn ddyfeisgar iawn, gan droi adeilad cyffredin a syml yn eglwys hardd. Roedd yn ailgylchu ac ailbwrpasu tuniau a bocsys i greu pethau ar gyfer yr eglwys. Mae sawl artist o Gymru heddiw’n ailgylchu deunyddiau yn eu gwaith, fel Tim Pugh a Manon Awst. Edrychwch ar enghreifftiau o’u gwaith celf yma: https://celftastig.peniarth.cymru/thema/amgylchedd
Roedd Mario Ferlito hefyd yn defnyddio pob math o ddeunyddiau i liwio ei waith celf. Mae rhai artistiaid heddiw yn dewis creu lliwiau o ddeunyddiau naturiol, e.e. https://celftastig.peniarth.cymru/thema/archwilio-4. Beth am roi cynnig ar ddilyn y cyfarwyddiadau yma er mwyn creu eich lliwiau naturiol eich hun: https://celftastig.peniarth.cymru/uploads/teaching-resources/TP-Tecstiliau-Creu-Llifynnau-Naturiol.pdf
Enrico Stennett
Teulu a chefndir
Cafodd Enrico Stennett ei eni yn 1926 yn Maroon Town, Jamaica. Roedd teulu ei fam yn wyn ac yn berchnogion planhigfeydd (sef ffermydd mawr oedd yn tyfu pethau fel siwgr a choffi). Roedd ei dad yn Ddu a dywedodd Stennett, “Roedd fy nheulu i’n gaethweision ac yn berchen ar gaethweision.”
Cafodd ei fam ei gwrthod gan ei theulu oherwydd ei bod hi wedi cael plentyn gyda dyn Du, ac felly cafodd Stennett ei fagu gan ei fodryb.
Jamaica
Erbyn y cyfnod hwn, roedd caethwasiaeth wedi dod i ben. Er hyn, roedd Jamaica yn dal yn drefedigaeth a oedd yn cael ei rheoli gan Brydain. Trefedigaeth ydy gwlad sy’n cael ei rheoli gan wlad bwerus ac sy’n defnyddio ei phŵer i ddod yn fwy cyfoethog. Roedd y gymdeithas yn Jamaica yn dal i deimlo effeithiau ofnadwy hyn ac effeithiau caethwasiaeth.
Lliwiaeth
Un o’r effeithiau ar gymdeithas Jamaica oedd lliwiaeth. Ystyr lliwiaeth ydy credu yn anghywir fod croen golau yn well na chroen Du. Daeth lliwiaeth o’r rheol ‘un diferyn’. Roedd y rheol ‘un diferyn’ yn golygu bod unrhyw un o dras Du wedi gallu cael eu cadw fel caethweision, hyd yn oed os oedd y tras hwnnw’n mynd mor bell yn ôl ag wyth cenhedlaeth.
Pwysau gan ei deulu
Oherwydd lliwiaeth ac oherwydd bod teulu gwyn Stennett yn teimlo cywilydd am ei gefndir a’i hil gymysg, roedden nhw’n ei annog i feddwl amdano ei hun fel person gwyn. Roedd ei deulu hefyd yn ei annog i beidio â chysylltu â'r bobl Ddu oedd yn gweithio ym mhlanhigfa’r teulu.
Er nad oedd pobl Ddu yn gaethweision erbyn yr amser yma, roedden nhw'n dal yn cael eu trin yn ddrwg. Ychydig iawn o arian roedden nhw’n ei gael, er eu bod yn gweithio’n hynod o galed.
Plentyndod anodd
Cafodd Stennett blentyndod caled a llym, er iddo gael ei ddysgu i ddod yn Buckra Massa Pickney (‘Plentyn y Meistr Gwyn’) ac etifeddu’r blanhigfa pan fyddai’n hŷn. Roedd teulu Stennett yn byw bywyd cyfoethog a breintiedig oherwydd yr arian mawr roedden nhw’n ei wneud o’u gweithwyr Du. Gwelodd Stennett drosto ei hun sut roedd y gweithwyr Du yn cael eu trin yn ofnadwy a’u cosbi os nad oedden nhw’n gallu ymdopi â’r llwyth gwaith trwm.
Pan oedd yn ifanc, penderfynodd Stennett na fyddai e byth yn gallu trin pobl fel hynny. Dechreuodd ddangos diddordeb ym mywydau pobl Ddu o'i gwmpas. Unwaith eto, doedd ei deulu ddim yn fodlon gyda hynny, ac roedd risg gallai ei deulu ei guro'n ddifrifol petai'n cael ei ddal.
Wrth iddo dyfu yn ddyn ifanc, gwelodd y caledi roedd pobl Ddu Jamaica yn ei ddioddef a dechreuodd gymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth a’r ymdrech i ryddhau Jamaica fel ei bod yn wlad annibynnol.
Breuddwydio am fywyd gwell ym Mhrydain
Penderfynodd Stennett ddod i Brydain, gan ei fod wedi cael ei ddysgu i ystyried Prydain fel ei ‘famwlad’. Fel pawb oedd yn byw mewn trefedigaeth dan reolaeth Prydain, roedd wedi cael ei berswadio i feddwl amdano ei hun fel dinesydd Prydeinig. Roedden nhw wedi cael eu hannog i feddwl am Loegr fel paradwys, yn llawn angylion!
Barn ei deulu amdano’n dod i Brydain
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dechreuodd milwyr o Jamaica a oedd wedi ymladd dros Brydain ddychwelyd adref i'r Caribî. Clywodd teulu Stennett adroddiadau ganddyn nhw nad oedd Prydain bob amser yn groesawgar. Er hyn, roedd Stennett yn dal yn benderfynol o deithio yno. Gwrthododd ei deulu ei helpu, felly penderfynodd Stennett guddio ar long yn lle prynu tocyn. Roedd hyn yn anodd ac aeth ar y llong anghywir, gan fynd i rywle nad oedd eisiau teithio iddo!
Llong yr Empire Windrush
Yn y pen draw, pan oedd yn 21 oed, llwyddodd Stennett i hwylio ar y llong Empire Windrush a chyrraedd Prydain o'r diwedd. Empire Windrush oedd y llong ddaeth ag un o’r grwpiau mawr cyntaf o bobl o’r Caribî i’r Deyrnas Unedig yn 1948.
Sioc ar ôl cyrraedd Prydain
Fel llawer o bobl eraill, breuddwydiodd Stennett am fywyd newydd ym Mhrydain. Er hyn, fel eraill, cafodd sioc fawr. Sylweddolodd yn syth nad oedd yn cael ei ystyried yn ddyn gwyn o gwbl ym Mhrydain.
Dim lle
Roedd yn amhosibl iddo gael lle i aros. Roedd arwyddion ym mhobman yn dweud nad oedd ystafelloedd i bobl Ddu, Gwyddelod, na chŵn.
Roedd yn rhaid iddo gysgu mewn hen adeiladau gwag oedd wedi cael eu bomio yn yr Ail Ryfel Byd, neu mewn ystafelloedd bach brwnt gyda llawer iawn o bobl eraill o’r Caribî wedi cael eu gwasgu at ei gilydd. Roedd yr amodau yn ddrwg iawn – dim trydan, dim dŵr ar gyfer golchi, a phryfed mawr ym mhob man yn brathu. Roedd Stennett yn teimlo’n oer, yn newynog ac yn flinedig.
Dim gwaith
Gwnaeth ei orau i gael gwaith a llety gwell, ond doedd neb yn barod i roi gwaith iddo. Roedd pobl yn dweud wrtho y byddai'r Saeson gwyn yn gwrthod gweithio gyda phobl Ddu. Roedd Stennett eisiau mynd adref a nawr yn sylweddoli pam roedd ei deulu wedi ei annog i beidio â mynd i Brydain. Ond doedd hi ddim yn bosib iddo fynd adref.
Yn benderfynol o lwyddo
Roedd bywyd yn annioddefol o galed i Stennett. Roedd hynny’n brofiad cyffredin i genhedlaeth Windrush, sef y bobl ddaeth o'r Caribî i Brydain rhwng 1948 a 1971. Ond fel cymaint ohonyn nhw, roedd profiadau anodd Stennett yn ei wneud yn fwy penderfynol o lwyddo.
‘Speakers’ Corner’ yn Llundain
Siaradodd Stennett yn gyhoeddus i ddweud pa mor annheg oedd y ffordd cafodd e ac eraill eu trin. Roedd yn arfer areithio am hyn yn ‘Speakers’ Corner’, sef cornel enwog yn Hyde Park yn Llundain lle mae pobl dros y blynyddoedd wedi gallu siarad yn rhydd am bynciau sy’n bwysig iddyn nhw. Yn wir, siaradodd Stennett yno dros gyfnod o ddeg mlynedd i wneud yn siŵr bod pobl yn clywed am brofiadau pobl Ddu.
Gweithio’n galed i helpu eraill
Daliodd ati i chwilio am waith a cheisio gwella ei sefyllfa. Yn y pen draw, llwyddodd i ddod o hyd i ychydig mwy o waith a llety gwell.
Daeth yn rhan o fudiad yr undebau llafur (sef grwpiau o weithwyr sy’n dod at ei gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn deg yn eu lle gwaith). Gweithiodd yn galed hefyd i wella’r berthynas rhwng pobl o wahanol hil yn y gymdeithas. Enillodd nifer o wobrau am ei waith.
Ar ôl ymddeol, sefydlodd Cydffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Affricanaidd a Charibïaidd.
Symud i Gymru
Yn ddiweddarach yn ei fywyd, yn y 1990au, aeth Stennett i fyw yng ngogledd Cymru, gan ddod yn Ymddiriedolwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru. Ysgrifennodd hunangofiant o’i fywyd o’r enw Buckra Massa Pickney.
Bu farw Stennett yng ngogledd Cymru yn 2011. Yn 2022, cafodd ffilm bwerus ei gwneud i gofio am fywyd a chyfraniadau Stennett, sef Buckra Massa Pickney – The Life of Enrico Stennett, Windrush Elder.
I wylio’r ffilm, ewch i: https://vimeo.com/876468270
Geirfa
|
caethwasiaeth |
yr arfer o wneud pobl yn gaeth fel eu bod yn gorfod byw yn ufudd i'w meistri |
|
cenhedlaeth |
pobl sy’n cael eu geni ac yn byw yn yr un cyfnod |
|
hil |
grŵp o bobl sy’n rhannu yr un lliw croen, siâp llygaid ac yn y blaen; mae hefyd yn gallu golygu rhannu’r un iaith, hanes a thraddodiadau |
|
lliwiaeth |
credu'n anghywir bod croen golau yn well na chroen Du |
|
planhigfa/planhigfeydd |
lle mae cnydau fel coffi, siwgr a thybaco yn cael eu tyfu |
|
tras |
aelodau o deulu person yn y gorffennol |
|
trefedigaeth |
pan fydd gwlad yn cael ei rheoli gan wlad fwy pwerus, gan orfod dilyn ei diwylliant a’i thraddodiadau, a chael ei defnyddio i wneud y wlad arall yn fwy cyfoethog |
|
undebau llafur |
grwpiau o weithwyr sy’n dod at ei gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn deg yn eu lle gwaith |
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Dychmygwch mai chi yw Enrico Stennett. Ysgrifennwch dri llythyr at ffrind yn esbonio sut rydych chi’n teimlo ar wahanol adegau yn eich bywyd.
Llythyr 1: Ysgrifennwch at ffrind am eich bwriad i fynd i Brydain. Beth ydy’r problemau rydych chi’n eu gweld yn y Caribî? Pam rydych chi eisiau gadael a symud i Brydain? Sut fywyd rydych chi’n disgwyl ei gael ym Mhrydain?
Llythyr 2: Ysgrifennwch at ffrind flwyddyn ar ôl i chi gyrraedd Prydain. Sut rydych chi’n teimlo am fod yma? Pam? Sut mae’n wahanol i'r hyn roeddech chi wedi ei ddisgwyl?
Llythyr 3: Ysgrifennwch at ffrind yn y flwyddyn 1999. Ble rydych chi’n byw erbyn hyn? Esboniwch beth ydych chi wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd a’r cyfraniadau rydych chi wedi eu gwneud yn eich bywyd. Pam rydych chi wedi teimlo mor gryf am wneud y pethau hyn?
Gweithgaredd 2
Ymchwiliwch i hanes person arall yng Nghymru sydd â chysylltiad â chenhedlaeth Windrush, gan ddefnyddio gwybodaeth a/neu fideos ar-lein fel https://www.casgliadywerin.cymru/users/50121
Paratowch 3 sleid pwerbwynt am y person rydych chi wedi ei ddewis, gan drafod:
Cyflwynwch eich sleidiau i weddill y dosbarth.
Gweithgaredd 3
(i) Darllenwch y tair ffaith isod. Yna, trafodwch y cwestiwn ar y diwedd.
Yn eich barn chi, sut dylai Prydain fod wedi croesawu’r bobl o’r Caribî? Pam?
(ii) Er bod Prydain yn awyddus i gael mwy o weithwyr, ac er bod llawer o’r Caribî wedi ymladd ar ran Prydain yn yr Ail Ryfel Byd, roedd profiad Enrico Stennett o wynebu rhagfarn ac o fethu â chael llety na gwaith ar ôl cyrraedd yn un cyffredin. Darllenwch y dyfyniad isod. Mae’n rhan o neges anfonodd Llywodraethwr Prydain yn Jamaica i Lundain cyn i'r Empire Windrush adael y Caribî, er mwyn rhoi ‘newyddion drwg’. Beth yw eich barn chi am y dyfyniad? Pam?
“Mae'n ddrwg gen i roi gwybod i chi fod mwy na 350 o docynnau ar gyfer teithwyr bwrdd llong EMPIRE WINDRUSH ... wedi cael eu harchebu gan ddynion sy'n gobeithio dod o hyd i waith yn y Deyrnas Unedig, a'i bod yn debygol y bydd 100 arall yn prynu tocynnau cyn i'r llong adael. Does gan y mwyafrif ohonyn nhw ddim unrhyw sgiliau penodol a dim ond ychydig o bunnoedd fydd gan rai ohonyn nhw pan fyddant yn cyrraedd.”
Patti Flynn
Cefndir
Roedd Patti Flynn yn berfformwraig jazz enwog, yn actores, yn awdur ac yn ymgyrchydd. Ei henw bedydd oedd Patricia Maude Young a chafodd ei geni ar Stryd Sophia, Tiger Bay, Caerdydd, yn 1937. Hi oedd yr ifancaf o saith o blant.
Cafodd ei mam, Beatrice Silver, ei geni yng Nghaerdydd hefyd. Roedd tad Flynn, sef Wilmot George Young, yn dod o St. Mary’s, Jamaica, a daeth i fyw i St. Mary’s, Tiger Bay, Caerdydd. Roedd yn fasnachlongwr a ddaeth i Brydain er mwyn cario nwyddau o'r Caribî a'u cyfnewid am lo o Gymru. Roedd y glo yn cael ei gludo wedyn i bob rhan o'r byd.
Setlodd rhieni Flynn yn Tiger Bay, sef ardal lle priododd llawer o fasnachwyr â merched lleol a chreu cymuned agos a chryf gyda’i gilydd.
Yr Ail Ryfel Byd
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer o fasnachwyr fel tad Flynn yn parhau i weithio. Roedd rhaid iddyn nhw geisio osgoi’r torpidos er nad oedd unrhyw arfau ganddyn nhw ar eu llongau er mwyn eu hamddiffyn eu hunain. Yn anffodus, cafodd llong tad Flynn ei tharo fel llawer o rai eraill, a bu farw yn ystod y rhyfel. Collodd Flynn ei brawd hynaf ar y môr hefyd, a bu brawd arall iddi farw tra oedd yn gwasanaethu gyda’r Awyrlu Brenhinol yn ystod y rhyfel.
Cantores jazz enwog
Pan oedd Flynn yn ferch fach, roedd hi wrth ei bodd gyda chanu a cherddoriaeth. Daeth hi’n gantores jazz boblogaidd ac enwog, a pherfformiodd hi mewn theatrau ledled y Deyrnas Unedig gyda’i sioe gabare. Roedd Flynn yn cael ei hadnabod fel ‘Difa Jazz Tiger Bay’.
Ymgyrchu
Ymgyrchodd hi’n llwyddiannus dros ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu yma yng Nghymru. Ymgyrchodd hi hefyd dros gynnwys y pwnc ar y cwricwlwm mewn ysgolion.
Am 26 o flynyddoedd, gweithiodd hi gydag arloeswyr ac ymgyrchwyr eraill fel Betty Campbell i wneud yn siŵr ein bod ni yng Nghymru yn anrhydeddu’r bobl o Tiger Bay oedd wedi ymladd a marw yn ystod y ddau ryfel byd. Roedd hi am weld cofeb i’r 150 o bobl hyn. Chawson nhw ddim eu cydnabod tan 2019, pan wnaeth Flynn ddadorchuddio’r gofeb gyntaf yng Nghymru sy’n cofio’r Mwyafrif Byd-eang o Gymru a gollodd eu bywydau wrth frwydro yn ystod y ddau ryfel byd.
Plac Porffor
Bu farw Flynn yn 2020 yn 83 oed. Trwy ei gyrfa gerddorol lwyddiannus a’i hymgyrchu cymunedol, gwnaeth Flynn waith mawr yng Nghymru. Yn 2023, cafodd Plac Porffor ei ddadorchuddio i gofio’r cyfan wnaeth hi. Flynn oedd y fenyw Ddu gyntaf yng Nghymru i gael Plac Porffor, sef placiau sy’n cael eu gosod i ddathlu llwyddiannau merched nodedig. Gallwch weld ei phlac yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, yn agos at gymuned leol Patti Flynn.
Geirfa
|
anrhydeddu
|
dangos ein bod yn gwerthfawrogi rhywun drwy roi clod iddyn nhw’n gyhoeddus |
|
arloeswyr
|
pobl sy’n gwneud pethau newydd neu am y tro cyntaf, gan helpu i wella bywydau pobl eraill ar y pryd ac wedyn |
|
Awyrlu Brenhinol
|
Royal Air Force (RAF) |
|
masnachlongwr |
person sy’n gweithio ar longau sy’n cario nwyddau ar gyfer eu gwerthu |
|
masnachwr |
person sy’n gwerthu pethau, yn arbennig i wledydd eraill |
|
Mwyafrif Byd-eang
|
disgrifiad cadarnhaol o bobl Ddu, Affricanaidd, Asiaidd, Brown, ac o etifeddiaeth ddeuol - mae’r grwpiau hyn yn cynnwys tua 80% o boblogaeth y byd |
|
nodedig |
yn haeddu sylw; arbennig |
|
sioe gabare |
adloniant (er enghraifft, canu a dawnsio), sy’n aml yn digwydd mewn bwyty neu glwb nos |
|
ymgyrchydd |
person sy’n gweithio’n galed i newid pethau |
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
I wylio clip fideo am y gofeb i arwyr rhyfel Tiger Bay, ewch i
https://www.youtube.com/watch?v=4CozTN_8pAs
Trafodwch:
Bu Patti Flynn ac eraill yn brwydro am 26 o flynyddoedd i gael cofeb. Beth mae hynny’n ei ddweud am ei chymeriad? Meddyliwch am o leiaf bump disgrifiad.
Pam rydych chi’n meddwl bod Patti Flynn wedi dal ati i frwydro am gymaint o amser?
Pam rydych chi’n meddwl na chafodd y gofeb ei chodi ynghynt? Sut gallwn ni ddysgu o hyn i'r dyfodol?
Mae Mis Hanes Pobl Ddu yn cael ei ddathlu bob mis Hydref. Yn eich barn chi, beth ydy manteision cael mis fel yma? Pam?
Gweithgaredd 2
Dychmygwch mai chi yw Patti Flynn. Sut fath o araith byddech chi’n ei pharatoi ar gyfer dadorchuddio’r gofeb i arwyr rhyfel Tiger Bay? Trafodwch beth fyddech chi’n ei ddweud am:
eich balchder o fod yn perthyn i gymuned Tiger Bay a pham
pam mae’n bwysig ein bod ni yng Nghymru’n dysgu am fywydau a gwaith pobl Ddu
pam wnaethoch chi frwydro am 26 o flynyddoedd i gael y gofeb
sut rydych chi’n teimlo wrth weld y gofeb yn cael ei dadoruchuddio
beth allwn ni ei ddysgu o’r hanes hwn ar gyfer y dyfodol.
Gweithgaredd 3
Cafodd Plac Porffor ei roi mewn lle er mwyn i ni heddiw a phobl yn y dyfodol gofio bywyd a gwaith Patti Flynn a chael ein hysbrydoli ganddi. Trafodwch ym mha ffyrdd gall Patti Flynn ein hysbrydoli ni heddiw. Gallech chi wylio’r clip fideo hwn am syniadau pellach: https://youtu.be/g3y5JJQdanI?si=KLcqhpXkRZfjsQPS
Susheela Lourie MBE
Ganwyd Susheela Lourie ym 1940 ym Mochdre ger Bae Colwyn, yn ferch i Monica Sumitri a John Devamanikkam.
Daeth ei mam Monica i fyw i ogledd Cymru o Mysore yn ne India ym 1919, pan gafodd ei mabwysiadu gan genhades Methodistaidd o’r enw Ethel Tomkinson o Landudno. Ym 1916 daeth cwpl o dras Hindu Brahmin oedd ar bererindod i deml cyfagos â babi bach sâl i Ysbyty Coffa Holdsworth lle roedd Ethel yn gweithio.
Holon nhw i Ethel i edrych ar ôl eu babi am rai dyddiau, a chytunodd hi. Yn drist iawn, ddaethon nhw fyth yn ôl a does neb yn gwybod beth ddigwyddodd iddyn nhw. Ymhen amser, mabwysiadodd Ethel y babi, a’i galw’n Manikam. Yn ddiweddarach, anfonodd hi Manikam i fyw at ei theulu ym Mae Colwyn, a newidwyd ei henw i Monica, gan feddwl y byddai’n haws i bobl Cymru ei ynganu.
Daeth tad Susheela, John, o Madras (Chennai) i Birmingham yn 1933. Gŵr o dras Tamil de’r India oedd e. Cafodd John hefyd ei fabwysiadu gan Fethodist yn ne’r India, wedi i’w fam farw wrth roi genediaeth iddo. Bu’n benderfyniad anodd iawn i’w dad wrth iddo geisio gofalu am ei blant eraill a gweithio i ennill arian i gynnal ei deulu. Fel Monica, cafodd John ei fagu mewn awyrgylch Anglicanaidd, Cristnogol gan bobl a ddaeth i’r India i genhadu yng nghyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig. Symudodd John i Fae Colwyn ar ôl priodi Monica.
Hyfforddodd Monica fel nyrs ac aeth John yn filwr ym Myddin Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Magon nhw bedair o ferched ym Mochre, ac aeth y bedair i ysgolion lleol gan ddysgu Cymraeg. Nhw oedd un o’r ychydig deuluoedd Brown neu Ddu yng ngogledd Cymru ar y pryd. Ar y cyfan cawson nhw eu derbyn a’u gwerthfawrogi fel rhan o’u cymuned, ond cawson nhw hefyd brofiadau negyddol wrth i rai pobl dynnu sylw atynt oherwydd eu cefndir. Roedd dylanwadau cyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig wedi dileu elfennau amlwg o’u hunaniaeth (enwau gwreiddiol, iaith, crefydd, gwisg draddodiadol), ond roedd y teulu yn parhau i wynebu heriau wrth geisio cael eu derbyn yn llwyr.
Ym 1948 pan oedd hi’n blentyn ifanc, aeth Susheela ar daith i Lundain. Teimlai’n ddryslyd wrth weld arwydd y tu allan i fwyty yn dweud ‘Dim Pobl o Liw, Dim Cŵn, Dim Gwyddelod’. Yn anffodus roedd arwyddion o’r fath yn gyffredin yn y cyfnod. Holodd Susheela ‘Ydy hynna’n cyfeirio aton ni?’ i’w mam Monica, ac atebodd oedd, roedd hynna’n golygu nad oedd croeso iddynt yn y lle.
Holodd Susheela ‘Ond pam? Dyn ni wedi gwisgo’n smart ac mae digon o arian gyda ni i fynd i mewn!’. Cytunodd Monica â’i merch, ond dwedodd mai dyna sut yr oedd pethau. Anghofiodd Susheela ddim mo’r profiad ofnadwy yma, a dyma un o’r pethau a ysbrydolodd ei gwaith yn ddiweddarach wrth iddi weithio dros sicrhau cydraddoldeb hil.
Ym 1964 priododd Susheela, a buodd hi a’i gŵr yn gweithio mewn sawl lle gwahanol o gwmpas Prydain, ond daeth yn ôl i ogledd Cymru’n aml i ymweld â’i theulu. Daeth hi’n rhan o Gyngor Cydraddoldeb Hil yn ardal Hull yn Lloegr ac roedd ar dân am y gwaith. Yn 1988 daeth hi yn ôl i fyw i ogledd Cymru i ofalu am ei mam sâl.
Un diwrnod, roedd Susheela’n gyrru o ei bro ym Mae Colwyn gyda ffenest ei char i lawr am ei bod hi’n gynnes. Wrth yrru heibio grŵp o fechgyn ifainc, gwaeddon nhw eiriau cas hiliol ati, a gweiddi arni am ‘fynd adre’ gan ddefnyddio geiriau afiach. Wrth reswm roedd Susheela wedi ei hypsetio’n fawr iawn ac achosodd y profiad arswyd iddi – roedd hi gartef, yn yr ardal lle’i ganwyd!
Gwnaeth hyn iddi sylweddoli fod y digwyddiad yma’n rhan o broblem llawer ehangach, ac roedd hi am daclo’r peth. Aet hi gyfarfod yn ne Cymru i drefnu sefydlu Cynghorau Cydraddoldeb Hil. Holodd a oedd cynlluniau i sefydlu cyngor o’r fath yng ngogledd Cymru? Cafodd ateb pendant – ‘Wel, rwyt ti’n byw yno, felly trefna di!’. ‘Efallai dyna wnaf fi!’, meddyliodd i’w hun. Ond doedd dim syniad gyda hi ble i ddechrau.
Yn yr un cyfnod, decreuodd Susheela a grŵp o ferched oedd yn rhannu’r un syniadau (gan gynnwys Charlotte Williams OBE) gyfarfod yn lolfa tai ei gilydd i drafod beth allen nhw ei wneud. Derbynion nhw gymorth gan wleidyddion a Heddlu Gogledd Cymru, ac yn 2000 sefydlwyd elusen Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru (North Wales Race Equality Network - NWREN) ym Mhenmaenmawr.
Derbyniodd Susheela MBE ym Mhalas Buckingham yn 2001 am ei gwaith i hybu cydraddoldeb hil. Bu’n weithgar iawn gyda NWREN am flynyddoedd lawer, a buodd hi’n Gadeirydd y Bwrdd. Ymddeolodd hi ymhen amser, ond mae gwaith NWREN wedi parhau eu gwaith i wrth geisio sicrhau cydraddoldeb i bawb yng ngogledd Cymru, ac ymladd am degwch i’r rhai sydd wedi dioddef diffyg cydraddoldeb ar ran hil neu ethnigrwydd.
Roedd Susheela a’i theulu’n falch iawn o’i gwaith, a’r llwybr mae hi wedi ei osod i eraill ei ddilyn.
Gweithgaredd 1
Chwaraewch rôl mewn parau.
Senario 1:
Un ohonoch chi yw Lourie a’r llall yw ei ffrind.
Dychmygwch eich bod chi nôl yn y flwyddyn 1948 a bod Lourie newydd ddod adref o Lundain. Mae ei ffrind yn gofyn cwestiynau iddi er mwyn dysgu beth ddigwyddodd yn Llundain ac yn trio deall sut mae Lourie yn teimlo ar ôl profi hiliaeth yn y ddinas.
Senario 2:
Newidiwch rôl. Dychmygwch fod Lourie newydd gael y profiad cas o fechgyn yn gweiddi sylwadau hiliol ati ym Mae Colwyn. Mae ei ffrind yn gofyn cwestiynau iddi am y profiad er mwyn gwybod beth ddigwyddodd a deall sut mae Lourie yn teimlo.
Senario 3:
Y tro hwn, mae un ohonoch chi’n chwarae rhan Lourie ac mae’r llall yn berson mewn derbyniad yn Llundain ar ôl i Lourie dderbyn ei MBE.
Mae’r person yn gofyn i Lourie am ei bywyd a’i gwaith, gan holi am bethau fel:
beth mae hi wedi ei gyflawni a pham mae hi wedi cael MBE
sut dechreuodd hi wneud y gwaith hwn
pam mae hi’n teimlo mor gryf am y pethau mae hi’n eu gwneud.
Gweithgaredd 2
Profodd Lourie hiliaeth yn ystod ei bywyd a chlywodd bobl yn dweud wrthi am ‘fynd adref’. Mae hyn yn drosedd gasineb. Pam rydych chi’n meddwl bod hyn yn drosedd? Edrychwch ar-lein am syniadau i helpu, e.e.
https://www.llyw.cymru/mae-casineb-yn-brifo-cymru
https://www.report-it.org.uk/croeso_i_true_vision_cymru
Edrychwch ar y fideo hwn lle mae person ifanc yn trafod ei brofiad o drosedd gasineb. Trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn:
https://youtu.be/DB6EKxxHlRU?si=_asrHK7yU0sOZXaW
Pa effaith mae troseddau casineb yn gallu ei chael?
Pa wahaniaeth mae adrodd am droseddau casineb yn gallu ei wneud?
Mae’r fideo yn rhan o ymgyrch o’r enw ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’. Pam rydych chi’n meddwl bod yr ymgyrch yn sôn am ‘frifo Cymru’, yn lle ‘brifo unigolion’?
Beth am wylio a thrafod fideos eraill sy’n ymwneud â hiliaeth a stereoteipio:
- Arbrawf gan ysgol: https://youtu.be/1I3wJ7pJUjg?si=hWXkuCMts4qRtSNN
- Vaughan Gething yn siarad am hiliaeth https://youtu.be/UBXgI934lkg?si=SLrZRynXOMJsjn93
- Mae fideos ar fathau eraill o droseddau casineb i’w gweld yma: https://www.llyw.cymru/mae-casineb-yn-brifo-cymru-deunyddiaur-ymgyrch
Gweithgaredd 3
Roedd Lourie yn weithgar iawn gyda mudiad NWREN - NWREN.org.uk - yng ngogledd Cymru, sef mudiad sy’n yn bodoli i herio gwahaniaethu o bob math, hyrwyddo cytgord a gweithio tuag at gyfle cyfartal i bob grŵp lleiafrifol yng ngogledd Cymru.
Un o’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â NWREN yw sesiynau pêl-droed yng ngogledd Cymru sy’n annog pobl o bob cefndir ethnig i ymuno â nhw i gyd-chwarae. Beth hoffech chi weld yn eich ysgol/ardal chi i annog mwy o bobl ifanc o bob cefndir ethnig i ddod at ei gilydd i fwynhau a chymdeithasu?
Wrth deithio ar hyd y ffordd yng Ngwynedd rhwng Pwllheli ac Abersoch, fe ddewch chi at gyfres o arwyddion ar ochr y ffordd. Mae’r enw sydd ar un o’r arwyddion yn enwog drwy Gymru, sef Penyberth. Mae arwydd arall yno’n cyfeirio at safle cyfagos, sef Pentref y Pwyliaid.
Protest
Hen blasty oedd Penyberth, ond cafodd ei chwalu yn 1936 i wneud lle i adeiladu gwersyll milwyr a maes awyr. Penderfynodd tri dyn o’r enw Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine wneud rhywbeth am y peth.
Yn 1936, fel protest yn erbyn agor y lle fel ysgol fomio, llosgodd y tri yma y safle yn ystod y nos, a chawson nhw eu harestio a’u carcharu am flwyddyn am yr hyn wnaethon nhw. Heddiw, mae cofeb wedi ei chodi i gofio am y brotest.
Agor y safle
Er gwaethaf protestio’r tri, a chefnogaeth llawer trwy Gymru gyfan, agorwyd y safle fel maes awyr a gwersyll hyfforddi yn 1937. Cafodd ei defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bomiwyd y lle gan awyren Almaenig ym 1940 pan laddwyd dau ddyn. Cafodd tri bloc o lety swyddogion eu dinistrio hefyd, a chafodd sied awyrennau ei difrodi.
Daeth dyddiau’r Uned Awyrennau i ben ar 16eg o Fehefin 1945. Yn lle hynny, daeth y safle’n wersyll i filwyr ac awyrenwyr Pwylaidd oedd yn aros i fynd yn ôl i Wlad Pŵyl. Ond pan ddaeth yn glir na fyddai llawer o’r Pwyliaid yn gallu dychwelyd i’w mamwlad, cafodd gwersyll parhaol ei sefydlu iddyn nhw yno yn 1949. Mae Cartref Pwyliaid Penrhos yn cael ei ddefnyddio hyd heddiw.
Sefydlu’r pentref
Yn 1949, penderfynodd tua chant o gyn-filwyr Pwylaidd sefydlu cymuned Bwylaidd ar y safle, gan nad oedden nhw wedi gallu mynd yn ôl gartref. Hyd heddiw mae’r pentref, sydd ar gyfer pobl dros 55 mlwydd oed, yn dal yno, ac mae croeso i unrhyw un o dras Pwylaidd neu unrhyw un o’r ardal leol fyw yn y pentref. Yn y pentref mae eglwys, llyfrgell, ystafell fwyta gymunedol, siop a rhandiroedd ar gyfer tyfu llysiau.
Mae’r gymuned Bwylaidd wedi hen sefydlu yn yr ardal, ac mae llawer o ddisgynyddion y milwyr gwreiddiol yn byw yno ac yn rhan bwysig o’r gymuned. Mae enghreifftiau tebyg o gymunedau’n sefydlu mewn gwledydd eraill i’w cael dros y byd i gyd. Un enghraifft yw pan hwyliodd y Cymry draw ar long y Mimosa i Batagonia. Fel y Pwyliaid ym Mhenrhos, maen nhw yno o hyd.
Dysgu iaith
Mae rhai yn ardal Pwllheli wedi dysgu Pwyleg er mwyn gallu siarad â’r Pwyliaid yn eu hiaith. Mae rhai o dras Pwylaidd hefyd wedi dysgu’r Gymraeg, ac wedi dod yn rhan o’r gymdeithas leol.
Dolenni defnyddiol
Dysgwch fwy am y pentref ac am y bobl sydd wedi byw, ac yn byw, yno:
Gwyliwch y clip fideo hwn sy’n sôn am fywyd ym Mhenrhos ac am gynlluniau i ddatblygu’r lle:
Gweithgaredd 1
Mae cymuned Penrhos yn lle arbennig ac mae Pwyliaid Penrhos wedi cadw nifer o’r traddodiadau Pwylaidd. Ymchwiliwch i rai traddodiadau Pwylaidd:
Gweithgaredd 2
Pwyleg yw’r drydedd iaith fwyaf cyffredin yng Nghymru. Chwiliwch ar y we i weld beth ydy’r geiriau a’r ymadroddion isod mewn Pwyleg. Edrychwch ar y we hefyd i weld sut i ynganu’r rhain. Beth am eu dysgu?
Gweithgaredd 3
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdodd llawer o’r Pwyliaid ochr yn ochr â milwyr Prydain a Ffrainc. Erbyn diwedd y rhyfel, roedd Gwlad Pwyl wedi cael ei dinistrio a daeth yn wlad gomiwnyddol dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd, felly dewisodd y rhan fwyaf o Bwyliaid oedd ym Mhrydain ar y pryd aros yma. Daeth Penrhos yn hafan i rai ohonyn nhw.
Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r pwyntiau isod? Trafodwch mewn grwpiau.
Bob Lovell
“Ame Welsheskri Romani sar o patrainia oprey o baval ando butti temeskri ame Romani sara me dik ki Cymru, sa amari Romanistan.” – “Ni, y Romani Cymreig, yw'r dail ar y gwynt mewn llawer o wledydd [ac] rydyn ni'n ystyried Cymru fel ein mamwlad.
Teulu Bob Lovell Kamulo
Mae Bob Lovell yn dod o hen deulu o Sipsiwn Romani Cymreig, sef teulu Lovell, sydd wedi byw yng Nghymru ers tua 300 mlynedd. Mae’r teulu’n galw Bob Lovell yn Kako Bob (‘Kako’ ydy’r gair am ewythr).
Kamulo oedd cyfenw gwreiddiol y teulu, ond fel llawer o deuluoedd Romani, penderfynon nhw fabwysiadu cyfenw Prydeinig. Mae’r enw Lovell yn swnio fel y gair am ‘golygus’ yn yr iaith Romani. Mae’n bosib mai dyma pam eu bod wedi ei ddewis fel eu cyfenw Prydeinig! Mae’n bosibl hefyd i’r enw Lovell gael ei ddewis oherwydd i berson o’r enw Lovell gynnig cymorth i’r teulu.
O ble mae’r Sipsiwn Cymreig yn dod yn wreiddiol?
Mae Sipsiwn Romani Cymreig, fel pob person Romani, yn dod o India’n wreiddiol. Gadawon nhw am y ffordd hir (lungo drom) i Ewrop tua 1500 o flynyddoedd yn ôl.
Kalé yw’r llwyth teuluol, ac yn ddiweddarach daeth y llwyth hwn i gael ei adnabod fel y Sipsiwn Cymreig. Credir bod llwyth Kalé wedi dod i Gymru o Sbaen. Enwau dau o gyndeidiau Bob Lovell yw ‘Syrenda Ferdandez Lovell’ a ‘Spanish Lovell’, ac mae’n ddigon posib fod eu henwau’n gysylltiedig â’r cyfnod pan oedd y llwyth teuluol yn byw yn Sbaen.
Credir mai Henry Lovell oedd y Lovell cyntaf i gychwyn y teulu Cymreig. Ei waith oedd miniogi sisyrnau, sef gwaith traddodiadol roedd y Sipsiwn Romani’n aml yn ei wneud. Roedd hyn yn addas ar gyfer y ffordd nomadig o fyw wrth i'r teulu symud o bentref i bentref, am nad oedd angen cario llawer o offer er mwyn gwneud y gwaith.
Adolphus Lovell
Roedd teulu Lovell yn byw ar hyd a lled Cymru ac roedd ganddynt lefydd arbennig lle bydden nhw’n aros. Yr enw ar y lleoedd hyn oedd atchin tans. Cafodd tad (dadus) Bob Lovell, sef Adolphus Ruben Lovell, ei eni yn yr atchin tan ym Mhont-y-pŵl o’r enw ‘Upper Race’.
Roedd Adolphus Lovell yn gweithio fel miniogwr cyllyll, sef sgil draddodiadol a gafodd ei throsglwyddo gan y rhieni i’r plant ers amser Henry Lovell yn y 1700au. Roedd Adolphus hefyd yn gofalu am geffylau (grai) y teulu, ac roedd teulu Lovell yn gyffredinol yn adnabyddus am eu gallu i drin ceffylau. Ymladdodd llawer o Sipsiwn Romani yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar gefn ceffylau, a gwnaeth taid Bob Lovell yr un peth. Enw ei daid, fel ei dad, oedd Adolphus.
Bob Lovell oedd yr aelod cyntaf o’r Sipsiwn Romani Cymreig i gael ei eni yn Seland Newydd. Fel llawer o ddynion Sipsiwn Romani, ymladdodd tad Bob Lovell yn yr Ail Ryfel Byd ac ymunodd â'r llynges. Dyma sut y daeth i fyw i Seland Newydd pan orffennodd y rhyfel, a dyma felly lle cafodd Bob Lovell ei eni a’i fagu.
Yr iaith Romani Gymreig
Roedd tad Bob Lovell, Adolphus, yn siarad yr iaith Romani Gymreig, fel pob aelod arall o deulu Lovell ar yr adeg honno. Roedd teuluoedd Sipsiwn Romani Cymreig eraill hefyd yn siarad yr iaith Romani Gymreig ar y pryd.
Doedd Adolphus Lovell, fel y mwyafrif o bobl Romani, ddim wedi cael unrhyw addysg ffurfiol. Doedd e ddim yn darllen nac ysgrifennu a dysgodd siarad yr iaith Romani Gymreig drwy’r traddodiad llafar, sy’n golygu ei bod yn iaith a gafodd ei throsglwyddo o’r rhieni i’r plant, fel oedd wedi digwydd ers canrifoedd. Dyma'r ffordd dysgodd Bob Lovell i'w siarad hefyd, sef drwy’r traddodiad llafar.
Wrth glywed Bob Lovell yn siarad yr iaith Romani Gymreig, ysgrifennodd Juice Vamosi, sef Roma o Hwngari a chyfieithydd rhyngwladol tafodieithoedd Romani: “Mae'n siarad geiriau hynafol, gyda gramadeg hynafol; mae mor brydferth! Mae llawer o'r geiriau mae Kako Bob yn eu defnyddio wedi'u colli yn y mwyafrif o dafodieithoedd a dim ond ychydig ohonynt sydd wedi'u cadw. Mae Kalé o Gymru yn perthyn i’r grŵp Romani hynaf, sy’n rhywbeth i fod yn wirioneddol falch ohono.”
Mae gwreiddiau'r iaith Romani Gymreig yn India. Er hyn, dim ond yma yng Nghymru mae’r iaith yn cael ei siarad. Datblygodd yr iaith ar sail yr hyn welodd a phrofodd y cyndeidiau wrth fyw ym mynyddoedd, cymoedd a choedwigoedd Cymru. Mae’r iaith Romani Gymreig yn cynnwys geiriau benthyg o'r iaith Gymraeg, am mai Cymraeg oedd y brif iaith oedd yn cael ei siarad yma pan gyrhaeddodd y Sipsiwn Romani.
Siaradwr olaf
Mae Bob Lovell yn berson allweddol am mai fe yw’r unig un sy'n dal i siarad yr iaith Romani Gymreig o ganlyniad i ddysgu’r iaith ar lafar gan ei rieni. Mae hefyd yn geidwad y traddodiadau a'r rheolau anysgrifenedig (sy’n cael eu galw’n putuv). Mae Bob Lovell wedi mynd ati i warchod yr iaith Romani Gymreig ar ei ffurf lafar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac er mwyn cofnodi lle’r teulu yn hanes Cymru.
Mae Bob Lovell yn ysgrifennu ac yn canu caneuon, ac yn adrodd straeon am y teulu yn yr iaith Romani Gymreig. Mae hefyd wedi bod yn recordio geiriau ac ymadroddion ers dros 30 mlynedd i wneud yn siŵr bod yr iaith yn cael ei chadw’n fyw i blant Sipsiwn Romani Cymreig y dyfodol. Mae wedi gwybod erioed ei bod yn hawl ddynol i bobl allu defnyddio eu hiaith eu hunain. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn i'r Sipsiwn Romani Cymreig ddeall pwy ydyn nhw a throsglwyddo'r diwylliant i’r cenedlaethau nesaf.
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn dweud bod gan blant yr hawl i ddefnyddio eu hiaith ac arfer eu diwylliant eu hunain hyd yn oed os nad yw'r rhain yn gyffredin i’r rhan fwyaf o bobl yn y wlad lle maen nhw’n byw.
Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn cael eu siarad yma hefyd. Dangosodd arolwg gan CILT Cymru fod o leiaf 98 o ieithoedd yn cael eu siarad gan blant ysgol yn y wlad hon. Pa ieithoedd sy’n cael eu siarad yn eich ysgol/ardal chi ar wahân i Gymraeg a Saesneg? Dewiswch un o’r ieithoedd hyn. Ymchwiliwch iddi a pharatowch gyflwyniad amdani. Ystyriwch:
Pa fath o iaith yw hi? O ble daw hi’n wreiddiol? Rhowch enghreifftiau o eirfa ac ymadroddion.
Rhowch enghraifft o siaradwr / enghreifftiau o siaradwyr yr iaith yn eich ardal. Pryd daethon nhw/eu teulu i Gymru a pham? Faint o’r iaith maen nhw’n ei siarad gartref a/neu’n gymdeithasol?
Pa draddodiadau maen nhw’n eu cadw sy’n gysylltiedig â’r iaith?
Rhowch enghraifft o chwedl/stori sy’n deillio o’r iaith hon.
Esboniwch sut mae dysgu am yr iaith hon wedi cyfoethogi eich dealltwriaeth o’ch cymuned. Yn eich barn chi, pam mae’n bwysig dysgu am ieithoedd eraill o’ch cwmpas a’u gwerthfawrogi?
Gweithgaredd 2
Pa iaith leiafrifol/ieithoedd lleiafrifol yng Nghymru ydych chi’n astudio/siarad? Dychmygwch mai chi yw siaradwr olaf yr iaith honno. (Os ydych chi’n siarad mwy nag un iaith leiafrifol, dewiswch un). Trafodwch mewn grwpiau:
- Sut byddech chi’n teimlo fel siaradwr olaf yr iaith? Pam?
- Dewiswch ddeg gair yn yr iaith fyddai ar dop eich rhestr i'w recordio ar gyfer pobl ifanc y dyfodol. Pam rydych chi wedi dewis y geiriau hyn?
- Pa bump cân byddech chi’n eu recordio er mwyn i bobl ifanc y dyfodol wybod amdanyn nhw?
- Petaech chi’n gallu troi’r cloc yn ôl, sut byddech chi wedi mynd ati i geisio gwneud yn siŵr bod yr iaith wedi tyfu a datblygu, yn lle marw?
- Mae tua naw iaith yn marw yn y byd bob blwyddyn. Pa fath o resymau sydd y tu ôl i hyn yn eich barn chi? Sut mae hyn yn gwneud i chi deimlo? Pam?
Gweithgaredd 3
Rydyn ni’n credu mai yn y ddeunawfed ganrif setlodd y Romani Cymreig yng Nghymru. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi cyfrannu llawer at y diwylliant Cymraeg ac at hanes Cymru mewn amrywiol ffyrdd. Un o’r rhai gyfrannodd lawer iawn oedd John Roberts, Y Drenewydd. Ymchwiliwch i'w hanes a a thrafodwch ei gyfraniad i hanes Cymru.
Mae stori bywyd Angela Kwok yn adrodd hanes ei chryfder a'i hymroddiad i adeiladu ei chymuned, a hefyd yn yn dangos pa mor anhunanol oedd hi. Daeth hi’n wreiddiol o Hong Kong i Gymru pan oedd hi’n 16 oed. Pan oedd hi’n 19 oed, sefydlodd hi a’i gŵr fusnes cludfwyd a bwyty ‘Bamboo Garden’ yn Heol y Gadeirlan yng Nghaerdydd. Roedd hi’n gweithio oriau hir a hwyr, a doedd hi ddim yn gallu siarad llawer o Saesneg, felly teimlai'n unig ac yn ynysig.
Bod yn gefn i eraill
Sylwodd Kwok fod merched Tsieineaidd eraill yn ei chymuned yn teimlo’r un peth, felly penderfynodd wneud rhywbeth am y peth. Dechreuodd trwy gynnig mynd gyda phobl i’w hapwyntiadau meddygol pan oedd angen cymorth gyda chyfieithu o’r Tsieineeg i’r Saesneg.
Yn ddiweddarach, sefydlodd Gymdeithas Merched Tsieineaidd De Cymru yng nghanol yr 1980au. Tyfodd y gymdeithas yn gyflym tan fod dros 50 o fenywod yn cyfarfod bob wythnos i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel coginio, gwnïo, gwersi Saesneg, gwersi technoleg gwybodaeth a theithiau.
Sefydliad newydd
Yn yr 1980au hwyr, llosgodd Canolfan Gymunedol Glan-yr-Afon yng Nghaerdydd i’r llawr. Er bod hyn yn sioc a siom enfawr, roedd Kwok yn benderfynol o barhau gyda’i gwaith, a chreodd sefydliad newydd, sef Sefydliad Gwasanaeth Cymunedol Tsieineaidd Caerdydd. Roedd y sefydliad newydd hwn yn cynnig gwasanaeth eirioli (sef siarad ar ran rhywun arall), cyngor a digwyddiadau ar gyfer poblogaeth Tsieineaidd Caerdydd a oedd yn tyfu’n gyflym.
Gwirfoddoli mewn amrywiol ffyrdd
Yn ogystal â’i gwaith cymunedol, roedd Kwok hefyd yn gwneud llawer o waith gwirfoddol. Byddai’n cyfieithu ar ran Heddlu De Cymru a daeth yn aelod o’r Cyngor Cydraddoldeb Hil. Dechreuodd hefyd yr ymgyrch i sefydlu mynwent i bobl Tsieineaidd ym Mhantmawr, Caerdydd ac roedd yn fam faeth i o leiaf 15 myfyrwraig o Tsieina yn ystod gwyliau’r brifysgol.
Yn 2008, arweiniodd Kwok ymdrech elusennol a gododd dros £12,000 i’r rheini a gafodd eu heffeithio gan ddaeargryn Sichuan yn Tsieina. Roedd hi’n annog Tsieineaid de Cymru i gyfrannu at yr ymgyrch i ailadeiladu ysgolion a gafodd eu dymchwel yn y digwyddiad.
Gadael gwaddol
I gydnabod ei chyfraniad i’r gymuned, derbyniodd hi Wobr Cyrhaeddiad Merched Cymru o Dras Asiaidd yn 2013 am y gwasanaeth cyfieithu a sefydlodd.
Bu farw Kwok yn 2016, ond mae ei gwaith da yn parhau. Mae cymuned Tsieineaidd Caerdydd yn parhau’n un gref a chynhwysol, diolch i’w gwaith hi wrth feithrin y gymuned honno a chodi ymwybyddiaeth ohoni ymysg cymdeithas amlddiwylliannol y ddinas.
Yn 2020, gosodwyd Plac Porffor ar wal bwyty ‘Bamboo Garden’ ym Mhontcanna, Caerdydd, i gydnabod dylanwad a gwaith Kwok. Sefydlwyd y cynllun hwn yn 2017 gan aelodau benywaidd y Senedd i ddathlu llwyddiannau a chyraeddiadau merched nodedig yng Nghymru.
Dywedodd merch Angela Kwok, sef Temmy Woolston, “Cyffyrddodd â chynifer o bobl gan wneud gwahaniaeth positif iddynt, a rhoddodd hi gymorth i’r rhai oedd ei angen a llais i’r rhai oedd yn teimlo’n anweledig. Mae pawb oedd yn ei hadnabod hi’n gweld ei heisiau yn fawr iawn, ond rydyn ni’n benderfynol y bydd ei dylanwad hi’n parhau.”
Dolenni defnyddiol:
Gweithgaredd 1
Mae Placiau Porffor yn cael eu gosod yng Nghymru i gofio am ferched arbennig a nodedig. Beth oedd yn nodedig am Angela Kwok a’i gwaith?
Chwiliwch am ddeg ffaith o’r darn darllen.
Trafodwch y pedwar peth oedd bwysicaf yn eich barn chi. Pam rydych chi wedi dewis y rhain?
Mae’r Placiau Porffor yn cael eu gosod nid yn unig er mwyn cofio merched nodedig, ond hefyd er mwyn ein hysbrydoli ni heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Yn eich barn chi, ym mha ffyrdd gall hanes Angela Kwok ein hysbrydoli ni? Pa wersi gallwn ni eu dysgu o’i bywyd a’i gwaith? Gwnewch fap meddwl.
Gweithgaredd 2
Rydyn ni’n dysgu o’r wybodaeth am Angela Kwok ei bod hi’n berson anhunanol ac yn rhoi llais i bobl oedd yn teimlo’n anweledig. Trafodwch:
Yn eich barn chi, ym mha ffyrdd mae’n gallu bod yn hawdd i ni anwybyddu neu beidio â meddwl am anghenion pobl eraill? Rhowch enghreifftiau. Pam mae hyn yn digwydd yn eich barn chi?
Sut rydych chi’n meddwl bod profiadau Kwok ei hun o symud i Gymru wedi ei sbarduno i helpu eraill?
Rydyn ni i gyd yn gallu teimlo’n anweledig ar adegau. Sut gallwn ni ddefnyddio ein profiadau ni o fod yn anweledig i fod yn bositif ac er lles pobl eraill? Meddyliwch am enghreifftiau o’r ffyrdd gallwn ni wneud hyn yn yr ysgol a thu allan i'r ysgol.
Roedd Kwok yn berson oedd nid yn unig yn teimlo empathi, ond hefyd yn gwneud llawer o bethau i helpu eraill. Trafodwch dri pheth byddwch chi’n gwneud pwynt o’u gwneud yn yr wythnos nesaf i ddangos empathi a charedigrwydd tuag at bobl sydd ddim fel arfer o fewn eich cylch agos o ffrindiau neu deulu. Beth allai eich rhwystro chi? Sut byddwch chi’n gwneud yn siŵr nad ydy’r rhwystrau hyn yn eich atal?
Mae ymchwil wedi profi bod dangos empathi yn gallu gwneud lles i ni’n feddyliol ac yn gallu helpu i leihau gorbryder ac iselder. Beth yw'r rhesymau dros hyn yn eich barn chi?
Gweithgaredd 3
Mae'r gymuned Tsieineaidd yng Nghymru'n gymuned ddifyr a byrlymus. Ewch i'r wefan https://chineseinwales.org.uk ac archwiliwch y ffordd mae’r diwylliant Cymraeg/Cymreig a’r diwylliant Tsieineaidd yn cael eu cydblethu, eu dathlu a’u datblygu yn ein cymunedau.
Bardd Cenedlaethol Cymru
Ar hyd y canrifoedd, mae pobl wedi bod yn ysgrifennu cerddi. Mae beirdd yn ysgrifennu am eu profiadau, am eu cymdeithas ac am ddigwyddiadau. Wyddoch chi fod rhai beirdd heddiw yn cael eu dewis i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru?
Ym mis Gorffennaf 2022, cafodd Hanan Issa ei dewis fel bardd cenedlaethol. Hanan Issa ydy’r pumed bardd a’r Mwslim cyntaf i fod yn Fardd Cenedlaethol Cymru: https://www.youtube.com/watch?v=E3mvpTqB90Y.
Ei theulu
Ganwyd Hanan Issa yn 1986 a'i magu yng Nghaerdydd. Roedd ei mam yn wyn ac yn Gymraes ac roedd ei thad yn Fwslim. Roedd gwreiddiau teulu ei thad yn ardal Nasiriyah yn Irac. Pan oedd Issa yn ifanc, roedd hi'n mwynhau gwrando ar ei mam-gu a'i thad-cu o bentref Benrhiw-ceibr yn adrodd barddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg. Hoffai hi hefyd wrando ar straeon a chwedlau gan berthnasau o ddwy ochr y teulu, a hynny yn Arabeg, Saesneg a Chymraeg. Felly, roedd ieithoedd a chymryd rhan mewn diwylliannau gwahanol yn rhywbeth cyfarwydd iawn i Hanan Issa o oed ifanc.
Rhannu ei gwaith
Ar y dechrau, doedd Issa ddim yn rhannu ei cherddi gyda neb, dim ond yn eu darllen nhw iddi hi ei hunan. Ond pan glywodd hi sylwadau annymunol yn cael eu gwneud gan David Cameron, cyn-Brif Weinidog Prydain, yn erbyn Mwslimiaid, penderfynodd hi rannu ei cherdd gyda'i ffrind. Cafodd ei hannog gan ei ffrind i rannu ei cherdd ar y cyfryngau cymdeithasol. Derbyniodd Issa ymatebion positif ac angerddol, a gwnaeth hyn ei hysbrydoli hi i ysgrifennu rhagor o farddoniaeth.
Dylanwadau
Mae Issa wedi cael ei dylanwadu gan waith beirdd fel Ada Limón, Zeina Hashem Beck, Terrance Hayes, ac Inua Ellams. Er mwyn darganfod sut mae Issa yn mynd ati i farddoni, cliciwch yma: https://poetrywales.co.uk/hanan-issa-on-how-she-writes-a-poem/
Ei barddoniaeth
Yn 2019, cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, sef My Body Can House Two Hearts. Mae cerddi Issa yn trafod diwylliant, perthnasoedd ac ieithoedd. Maen nhw’n trafod themâu fel ei hunaniaeth Gymreig ac Iracaidd, ac agweddau ar ffeministiaeth.
Wrth ddarllen gwaith Issa, gallwn ni glywed y sain 'ch' yn Gymraeg ac Arabeg yn canu gyda'i gilydd. Mae'r cerddi’n dangos sut mae'r Gymraeg, Saesneg ac Arabeg yn gallu llifo ochr yn ochr ac weithiau rannu’r un dŵr.
Er mwyn gweld animeiddiad o'r gerdd gyntaf yn y gyfrol, cliciwch ar y ddolen: Video: An animated version of Issa's poem "My Body Can House Two Hearts"
Yn ei barddoniaeth, cyfeiria Issa at faterion sy'n effeithio ar bobl yn eu bywydau bob dydd, yn cynnwys tlodi a chynhesu byd eang. Er mwyn gweld enghreifftiau pellach o'i gwaith, ewch i'r safleoedd hyn:
Ysbrydoli eraill
Pan gafodd Issa wybod ei bod wedi ei dewis yn fardd cenedlaethol, roedd hi wrth ei bodd ac yn falch o gynrychioli diwylliannau amrywiol Cymru. Gobeithia Issa annog mwy o bobl i sgwrsio am hunaniaeth a pherthyn. Mae hi hefyd yn awyddus i gyflwyno mwy o bobl i’r gynghanedd. Nod arall yw ysbrydoli merched i weld eu bod yn gallu anelu’n uchel a llwyddo.
Anrheg arbennig
Mae Issa wedi cael pastwn fel rhodd gan Gyngor Mwslimaidd Cymru am gael ei dewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Math o ffon ydy pastwn ac roedd yn cael ei ddefnyddio gan feirdd 'slawer dydd i bwysleisio geiriau a churo rhythmau. Cliciwch ar y ddolen i ddarganfod mwy am y pastwn: https://blogs.cardiff.ac.uk/islamukcentre/mark-and-sami-bryant-our-pastwn-for-hanan-issa-national-poet-of-wales/
Y Wal Goch
Wyddoch chi fod Hanan Issa wedi cefnogi ac ysbrydoli tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar yn 2022? Fel bardd cenedlaethol, cafodd Issa ei chomisiynu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru i ysgrifennu cerdd swyddogol ar gyfer Gŵyl Cymru: https://www.gwyl.cymru/cy/about/
Dywedodd Issa, "Mae gan bêl-droed y pŵer i drawsnewid torf o unigolion yn grŵp cydlynol, wedi'u huno i gefnogi eu tîm. Mae'n gyffrous meddwl am Gymru dan chwyddwydr rhyngwladol ac roeddwn i eisiau mynegi'r ymdeimlad heintus hwnnw o obaith mae'r wlad yn ei brofi ar hyn o bryd."
Cafodd y gerdd ei throsi i'r Gymraeg gan Grug Muse dan y teitl 'Mae'r Dorf yn Ymgynnull'. Yn y fideo o'r gerdd swyddogol, 'The Crowds Gathers', mae Hanan Issa a Grug Muse yn dyfynnu llinellau o'r gerdd yn Gymraeg, Saesneg ac Arabeg i gyfeiliant cerddoriaeth gan y cerddor Sage Todz. Cliwich ar y ddolen i weld y fideo: https://youtu.be/zXI8lf6W3E4
Awdures, sgriptiwr a chyflwynydd
Dros y blynyddoedd, mae Issa wedi perfformio mewn llawer o ddigwyddiadau ar draws y Deyrnas Unedig ac ar raglenni teledu a radio, yn cynnwys ITV Wales, BBC Radio Wales a Channel 4. Cafodd monolog gan Issa ei pherfformio fel rhan o brosiect o’r enw Hijabi Monologues mewn theatr yn Llundain. Roedd Issa hefyd yn un o’r rhai a sefydlodd ddigwyddiad meic agored BAME cyntaf Caerdydd, o’r enw 'Where I'm Coming From'.
Mae gwaith Issa yn aml yn trafod yr angen i roi hawliau i ferched, yn ogystal â'r angen i bawb gael yr un chwarae teg a'u hystyried fel pobl sy’n perthyn i Gymru. Mae hi weithiau’n defnyddio ffilm fel cyfrwng ar gyfer ei cherddi. Yn 2022, dewisodd y wefan Wales Arts Review ei cherdd ‘Ble mae Bilaadi?’ fel fideo’r wythnos: https://youtu.be/BoZvo8fLduk. Gallwch chi hefyd ddysgu mwy am y gerdd a’r fideo yma: https://ndcwales.co.uk/plethuweave-ble-mae-bilaadi
Ysgrifennodd Issa bennod yn y llyfr Welsh Plural yn disgrifio ac yn esbonio beth yn ei barn hi ydy ystyr perthyn i Gymru. Teitl y bennod oedd 'Have You Heard the One About the Niqabi on a Bus?’ Mae Issa yn ymfalchïo ei bod hi’n perthyn i Gymru, sy'n wlad lle mae pobl yn siarad llawer iawn o ieithoedd ac yn perthyn i fwy nag un diwylliant. Yn yr un bennod, mae Issa yn dweud y dylai Cymru a Chymreictod fod yn perthyn i bawb sy'n galw’r wlad yn gartref.
Geirfa
|
cynghanedd |
ffordd o greu harmoni arbennig mewn barddoniaeth, sy’n hen draddodiad pwysig iawn yng Nghymru |
|
digwyddiad meic agored |
digwyddiad lle mae unrhyw un yn gallu mynd ar y llwyfan a chymryd rhan, er enghraifft i ddarllen barddoniaeth neu ganu |
|
diwylliant |
syniadau ac arferion grŵp o bobl neu wlad, er enghraifft eu caneuon, barddoniaeth, storïau, celf, crefftau, bwyd |
|
ffeministiaeth |
y gred dylai menywod gael yr un hawliau â dynion |
|
hunaniaeth |
pwy ydy person, er enghraifft ei bersonoliaeth, beth mae’n credu ynddo, sut mae’n edrych |
|
monolog |
pan fydd un cymeriad yn siarad ar ei ben ei hun ar lwyfan neu mewn ffilm |
Dolenni defnyddiol:
Gwyliwch y fideo hwn o Hanan Issa a’r bardd Casi Wyn yn darllen eu cerdd ddwyieithog i ddathlu hanes Cranogwen, sef bardd Cymraeg o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: https://fb.watch/pubtDU6PQW/.
Gweithgaredd 1
Darllenwch un o gerddi Issa neu gwrandewch ar un o’i cherddi ar-lein. Beth yw'r negeseuon yn y gerdd? Pam rydych chi'n dweud hyn? Ydych chi'n cytuno â'r gerdd? Sut mae'n gwneud i chi deimlo? Pam?
Gweithgaredd 2
I ddysgu mwy am waith Issa, ewch i https://www.bbc.co.uk/programmes/m001pcbz.
Beth arall rydyn ni'n ei ddysgu am Issa o'r cyfweliad radio hwn?
Gweithgaredd 3
Mae Hanan Issa wedi ysgrifennu llawer o gerddi. Ysgrifennwch eich cerdd eich hun, yn seiliedig ar fywyd a llwyddiannau Issa. Gallwch ddefnyddio unrhyw ffurf o’ch dewis, e.e. cerdd restr, cerdd acrostig, cerdd rydd, cwpledi sy’n odli, haiku neu gerdd ddiemwnt.
Mae Issa wedi creu fideos o rai o’i cherddi, gan annog pobl i wylio a gwrando ar farddoniaeth yn ogystal â’i darllen. Beth yw eich barn am hyn?
Beth am wneud ffilm gan ddefnyddio eich cerdd eich hun?